Eisteddfod yr Urdd
Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 Sir Gaerfyrddin bellach ar ben a phawb wedi mwynhau wythnos ardderchog yn yr haul yn Llanymddyfri. Fel arfer, mae nifer o blant a phobl ifanc Bro Caron wedi bod yn brysur iawn yn cystadlu a chymryd rhan yr ŵyl eleni. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd rhan yn yr eisteddfod mewn unrhyw ffordd, boed yn gystadleuwyr, hyfforddwyr neu gefnogwyr. Dyma restr o fuddugwyr eleni, gydag ymddiheuriadau os ydw i wedi anghofio unrhyw un!
Llefaru Unigol Blwyddyn 3 a 4 i Ddysgwyr
2 – Elias Horton, Ysgol Pontrhydfendigaid
Unawd Blwyddyn 3 a 4
1 – Arthur Sion Evans, Ysgol Henry Richard
CogUrdd Blwyddyn 7, 8 a 9
3 – Ffion Sara Jones, Ysgol Henry Richard
Perfformiad Theatrig o Sgript Blwyddyn 7, 8 a 9
2 – Mair, Iago, Hedd a Guto, Ysgol Henry Richard
Grŵp Llefaru Blwyddyn 7, 8 a 9
3 – Ysgol Henry Richard
Tudalen Gomic Blwyddyn 7, 8 a 9
1 – Sam Nixon, Ysgol Henry Richard
Creadigol 2D Blwyddyn 7, 8 a 9
2 – Cain Sannan Owen
Graffeg Cyfrifiadurol Blwyddyn 5 a 6
1 – Mali Louise Jones, Ysgol Henry Richard
Ffotograffiaeth: Llun Lliw Blwyddyn 10 a dan 19 oed
2 – Michael Calligan, Ysgol Henry Richard
Ffotograffiaeth: Cyfres o luniau du a gwyn Blwyddyn 5 a 6
1 – Seren Nixon, Ysgol Pontrhydfendigaid
Argraffu Blwyddyn 5 a 6
1 – Annabelle Bulman, Ysgol Henry Richard
Argraffu Blwyddyn 7, 8 a 9
1 – Sam Nixon, Ysgol Henry Richard
Argraffu Blwyddyn 10 a dan 19 Oed
1 – Michael Calligan, Ysgol Henry Richard
Tecstilau Creadigol Blwyddyn 10 a dan 19
1 – Delun Davies, Ysgol Henry Richard
2 – Mari Wyn Lloyd, Ysgol Henry Richard
Creu Tecstilau Blwyddyn 10 a dan 19
2 – Rowena Gwynne, Ysgol Henry Richard
Pyped Blwyddyn 2 ac Iau
1 – Tomos Jac Jones, Ysgol Henry Richard
Pyped Blwyddyn 7, 8 a 9
1 – Ela Lois Davies, Ysgol Henry Richard
Gwaith 3D Blwyddyn 10 a dan 19
2 – Angharad Fflur Lewis-Griffiths, Ysgol Henry Richard
3 – Bella He, Ysgol Henry Richard
Creu Gwefan Blwyddyn 7, 8 a 9
1 – Merched Caron 8, Ysgol Henry Richard
2 – Bechgyn Caron 8, Ysgol Henry Richard
Daliwch
ati i gystadlu a chefnogi ein gwyliau diwylliannol sydd yn gwneud cymaint i ennyn brwdfrydedd a magu hyder ein pobl ifanc. Ymlaen!