Dathliad Gŵyl Dewi Tregaron

‘Gwisg genhinen yn dy gap, A gwisg hi yn dy galon’

gan Fflur Lawlor

Braf oedd cael dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw yng nghwmni Ysgol Henry Richard, Ysgol Pontrhydfendigaid, Ysgol Rhos Helyg ac aelodau o’r gymuned.

Diwrnod i ddathlu nawddsant Cymru, ein hiaith a’n hetifeddiaeth.

Cerddodd pawb o Ysgol Henry Richard lawr i’r Neuadd Goffa lle cawsom wledd o adloniant gan Ysgol Henry Richard, Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Rhoshelyg.

Diolch i Rhodri, Cered – Menter Iaith Ceredigion, Cyng. Catherine Hughes Cyngor Tref Tregaron ac Ysgol Henry Richard am drefnu. Hefyd, diolch i’r Cyng. Rhydian Wilson Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron a’r Cyng. Ifan Davies Cyngor Sir Ceredigion am gymryd rhan ac i Argraffwyr Lewis+Hughes am y baneri hyfryd.

Yn dilyn ychydig wythnosau cythryblus o ran y Gymraeg yn yr ardal, braf oedd dathlu’r Gymraeg a’r iaith a’i phwysigrwydd i’r ardal a’i phobl. Cofiwch, gwnewch y pethau bychain!