Cystadleuaeth Addurno Ffenest Siop. 

Trefnir Gan – Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Cerith Evans
gan Cerith Evans
F0479090-0AAE-4203-A715-B8477EDC9126
010B9A33-CF86-4FEA-A146

Cystadleuaeth Addurno Ffenest Siop!

Mae Cered – Menter Iaith Ceredigion wedi trefnu cystadleuaeth ar gyfer siopau Tregaron. Y gystadleuaeth ydy addurno ffenest y siop. Bydd y ffenest sydd wedi ei addurno orau erbyn Dydd Gŵyl Dewi yn ennill. Bydd pob siop  sydd wedi cymryd rhan yn cael eu beirniadu gan staff Cered ar y 1af o Fawrth. Os rydych am gymryd rhan e-bostiwch lun o’ch ffenest at cered@ceredigion.gov.uk neu rhowch lun lan ar gyfryngau cymdeithasol a thagio Cered.

Bydd y ffenestri yn cael eu beirniadu ar:

  • eu gwreiddioldeb
  • eu hadlewyrchiad o ysbryd yr Ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.

Pob Lwc!