Cymanfa Ganu Glannau Teifi ac Aeron

Y Gymanfa Ganu yng Nghapel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu yng Nghapel Bwlchgwynt ar ddydd Sul, 23 Ebrill o dan arweiniad Mrs. Gwyneth Davies o Bontrhydygroes.

Croesawyd  plant Ysgolion Sul Pontrhydfendigaid a Bwlchgwynt gan Catherine Hughes, Llywydd y prynhawn.  Plant Bwlchgwynt oedd yng ngofal y rhannau arweiniol a dechreuwyd gyda Dutt Panchal yn cyflwyno’r emyn cyntaf. Darllenwyd Salm gan Anni Grug Lewis-Hughes ac offrymwyd gweddiau gan Ifan Lawlor, Mali Lloyd a Gwion Lewis-Hughes.  Ymunodd Magi Lawlor gyda hwy i ganu un o’u hoff emynau o’r Detholiad.  Cafwyd anerchiad difyr gan Catherine i’r plant gyda neges bwrspasol a gorffennodd gyda’r geiriau a ganwyd gan y plant – “Nid yw neb yn neb, O na! Mae pawb yn bwysig iawn” Gwnaed y casgliad gan Dutt a Cerith Evans

Bu’n brynhawn pleserus a hwyliog gyda’r plant yn canu ar eu gorau o dan arweiniad medrus Gwyneth gyda Alwena Williams yn cyfeilio.

Yng nghyfarfod yr hwyr estynnwyd croeso i bawb gan Lywydd yr hwyr sef Twynog Davies.  Yn dilyn y rhannau arweiniol aeth ymlaen i gyflwyno’r arweinyddes.  Eto cafodd Gwyneth yr un ymateb gan yr oedolion a chafwyd canu da a’r cyfeilyddion oedd Eurwen Davies a Neli Jones.  Pleser oedd cael cwmni Merched Soar a Pharti Camddwr a chafwyd eitemau hyfryd ganddynt, gwnaethant gyfraniad arbennig i’r canu cynulleidfaol yn ogystal.

Paratowyd te blasus yn y festri gan wragedd capeli ardal Glannau Teifi ac Aeron a diolch iddynt am eu croeso.   Diolchwyd i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y Gymanfa gan y Parchg Carwyn Arthur yng nghyfarfod y prynhawn ac Alwena Williams yn yr hwyr.