Cwrs Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur

Cyfranogwyr yn archwilio hanes, tirwedd a llenyddiaeth Ystrad Fflur

gan Strata Florida Trust

Cynhaliwyd y cwrs cyntaf yn rhaglen Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur 2023 ar 18fed a’r 19eg o Fawrth. Gan ganolbwyntio ar hanes, tirlun a llenyddiaeth y safle anhygoel hwn, cafodd y cyfranogwyr o Geredigion ac ar draws y DU amrywiaeth o ddarlithoedd a theithiau tywys, gan yr Athro David Austin a’r Athro Dafydd Johnston.

Roedd Diwrnod 1 y cwrs yn archwilio hanes canoloesol yr abaty, y beirdd a’r llawysgrifau, ac eglwys a mynwent y Santes Fair. Cafodd y cyfranogwyr eu tywys o amgylch yr abaty, a bu’n trafod cynllun a dilyniant y safle.

Dechreuodd Diwrnod 2 y cwrs drwy ymchwilio i hanes ac adeiladau Mynachlog Fawr a’i adeiladau fferm, drwy gyfnod y teulu Stedman a’r Arch. Roedd hyn yn cynnwys archwilio’r gwrthrychau yn yr arddangosfa o eitemau o’r fferm. Yn y prynhawn, y canolbwynt oedd ffynhonnau sanctaidd a thirwedd sanctaidd y dyffryn, gyda thaith gerdded olaf i un ohonynt yn ffynhonnau.

Roedd hi’n benwythnos prysur iawn, gyda llawer o drafodaethau gwych. Dywedodd yr holl gyfranogwyr gymaint yr oedden nhw wedi mwynhau’r cwrs a’r llawer iawn o wybodaeth am y safle hanesyddol hwn

Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn cynnal rhaglen o gyrsiau eleni ar amrywiaeth o bynciau, o feysydd cadwraeth adeiladu, i weithdai ysgrifennu creadigol, a ffotograffiaeth nos. Dysgwch fwy ar y wefan: www.strataflorida.org.uk neu e-bostiwch ar info@strataflorida.org.uk