Crempog a Chymdeithasu

Bwlchgwynt yn cynnal noson bancws

gan Eirwen James

Ar Nos Fawrth Ynyd, Chwefror 21 am 7yh, bydd Capeli Gofalaeth Caron, dan arweiniad y Parch Carwyn Arthur, yn cynnal noson o Grempog a Chymdeithasu yn Festri Capel Bwlchgwynt. Pwrpas y noson fydd ymgyrchu i godi arian tuag at Hadau Gobaith dros Gyfiawnder Hinsawdd o dan faner Cymorth Cristnogol.

Bydd cyfle i gyfrannu tuag at yr achos teilwng hwn dros baned a phoncagen ynghyd â mwynhau eitemau o’r gwahanol gapeli. Bydd yn gyfle i ddod ynghyd mewn awyrgylch gyfeillgar, a phawb yn cael eu gwahodd i roi yn ôl eu gallu yn y cyfnod heriol hwn.

Croeso i bawb.