Coeden am ddim yn Ystrad Meurig

Ymweliad â ‘Coed Porffor’

gan Gwenllian Beynon
Dewisais y Cwyrosyn gan nad yw yn tyfu yn rhy fawr

Dewisais y Cwyrosyn gan nad yw yn tyfu yn rhy fawr

Y Cwyrosyn

Y Cwyrosyn

Gwybodaeth ar sut i'w phlannu

Gwybodaeth ar sut i’w phlannu

Ac yn y Saesneg Gwybodaeth ar sut i'w phlannu

Ac yn y Saesneg Gwybodaeth ar sut i’w phlannu

Hadau Blodau Gwyllt brodorol

Hadau Blodau Gwyllt brodorol

Enwau Hadau Blodau Gwyllt brodorol

Enwau Hadau Blodau Gwyllt brodorol

Yr hadau wedi eu plannu

Yr hadau wedi eu plannu

Anrheg gan Annwen Heavenly bamboo

Anrheg gan Annwen Heavenly bamboo

Anrheg arall gan Annwen-

Anrheg arall gan Annwen-

O’dd Annwen (Davies Swyddffynnon) a fi ise mynd am sbin heddiw. Roedd gan Annwen ond cwpwl o oriau oddi wrth yr wyna, felly doeddwn ddim yn gallu mynd yn bell. Cawsom nifer o syniadau ac yna gwnaeth Menna (Jones Ffair Rhos) ein gwahodd am baned. Felly dyna ei’n cynlluniau wedi eu gosod ond yn lle mynd yn syth i Ffair Rhos gwnaethom alw i mewn i Goed Porffor (Purple Trees) yn Ystrad Meurig.

Cawsom groeso hyfryd gan Alan ac Angharad a llwyth o wybodaeth am goed. Mae Alan mor wybodus am gasglu hadau brodorol a’u tyfu ar eu patch yn barod i fynd yn ôl i’w cynefin i dyfu yn goed enfawr rhyw ddydd.

Mae Coed Porffor yn rhan o gynllun #FyNghoedenEinCoedwig sef coeden am ddim i bob tŷ yng Nghymru ac yn ogystal a’r goeden fach ceir pecyn o hadau blodau gwyllt, brodorol i Gymru. Cynllun Coed Cadw  a Llywodraeth Cymru – Fy Nghoeden, Ein Coedwig

Yn y cynllun mae dewis o goed, pob math ar gyfer bob math o ardd; coed fel Ysgawen, Criafolen, Rhosyn Gwyllt, Masarnen Fach, Draenen Wen, Derwen Ddigoes, Collen, Afal surion bach a’r un ges i i’n ardd ffrynt, Cwyrosyn. Rwyf yn gobeithio bydd y goeden fach yma yn tyfu i roi blodau gwyn yn y gwanwyn, aeron duon yn yr Hydref ac yn darparu bwyd i famaliaid ac i adar. Gobeithiaf hefyd bydd y goeden fach yma yn byw yn hapus gyda’r ffenigl, yr ysgawen du, y chwyn a’r cannoedd o falwod sydd yn byw yn ddigon hapus yng ngwylltni naturiol yr ardd fach.

Ar ôl paned a sgwrs gyda Menna ac Annwen es adref a plannu fy Cwyrosyn mewn potyn bach yn barod iddi ddechrau tyfu. Mae’r hadau blodau gwyllt, brodorol wedi’u plannu mewn pot o bridd gyda’r gobaith byddaf yn llwyddiannus yn eu tyfu y tro yma (dwi ddim erioed wedi llwyddo i dyfu hadau blodau gwyllt, oni bae eu bod yn tyfu’n naturiol!!).

Felly os ydych am wneud rhywfaint o weithred dros ein hamgylchedd ewch i ymweld â Choed Porffor yn Ystrad Meurig am goeden fach, am ddim, i’w phlannu, pecyn bach o hadau blodau gwyllt a gwledd o wybodaeth gan Alan ac Angharad am goed. Hefyd tra bod chi yno, cofiwch gefnogi busnes bach a phrynwch brysgwydden (shrub) neu goeden. Mae Annwen a finne yn dathlu ein penblwyddi ym mis Chwefror felly gwnaethom gyfnewid planhigion fel anrhegion penblwydd heddiw a dysgu llawer wrth fwynhau.

Enwau’r coed Ysgawen (Elder), Criafolen (Rowan), Rhosyn Gwyllt (Dog Rose), Masarnen Fach (Field Maple), Draenen Wen (Hawthorn), Derwen Ddigoes (Sessile Oak), Collen (Hazel), Afal surion bach (Crab Apple) Cwyrosyn (Dogwood)

Hadau blodau gwyllt Celtic Wildflowers Abertawe– Gwelir yn y llun, o gefn pecyn yr hadau, enwau Cymraeg a Saesneg y blodau sydd yn y pecyn.

Coed Porffor Facebook

Celtic Wildflowers Facebook