Cawl, ceiliogod a’r codi arian!

RHAN 1 Galeri o Noson Cawl a Rasys Ceiliogod, Apêl Sioe’r Cardis 2024 yn Llanddewi-Brefi

gan Elliw Dafydd

Nos Wener, 10fed o Fawrth, cynhaliwyd noson o gawl a rasys ceiliogod yn Neuadd Llanddewi-Brefi gan Bwyllgor Canol y Sir Sioe’r Cardis 2024. Am noson! Braf iawn oedd llenwi y neuadd gyda chlonc, chwerthin a cheiliogod!

Pleser yw cael diolch i’n noddwyr ar gyfer y rasys ceiliogod hefyd:

TTS

Cambrian Power Tools

Pencefn Feeds

Evans Buses

Cambrian Mountains Glamping and Camping

DAG Jones

Diolch yn fawr i Emyr ac Iwan Aberdauddwr am redeg y rasys ceiliogod mor hwyliog.

Hoffwn ddiolch yn fawr i Brenda ac Enid fuodd yn brysur iawn yn paratoi a gweini’r cawl. Blasus iawn! Hoffwn ddiolch i Gigydd Teulu D I J Davies am y cig, i Bara Gwalia am y rôls, i Llaeth Llanfair am y llaeth a’r ysgytlaeth ac hefyd i Hufenfa De Arfon am y menyn a’r caws.

Dyma luniau o’r noson.

Dilynwch y linc yma i ganfod rhan 2 y galeri.