Cynhaliwyd arwerthiant Capel Rhydlwyd, Lledrod ar nos Wener 15 Medi yn festri’r capel. Cyfle oedd hyn i godi arian at yr achos trwy brynu a gwerthu amrywiaeth o nwyddau, ac yn fwy pwysig efallai, mwynhau paned a chlonc.
Daeth criw bach ond gweithgar at ei gilydd a dechreuwyd y noson gyda Beti Griffiths yn cyflwyno agorwr yr arwerthiant, sef yr Athro Anwen Jones, Porthmawr, Llanon, gynt o’r Gwyndy, Lledrod. Rhoddodd Anwen Jones wedyn araith fer yn rhoi tipyn o’i chefndir wedi i Ioan a Margaret Williams symud i’r Gwyndy i fyw o Swydd Warwick pan oedd Anwen yn chwe mlwydd oed. Roedd yn ddiddorol iawn i drigolion y pentref wybod pa mor bwysig mae symud i’r ardal a chael ei thrwytho yn yr iaith Gymraeg a diwylliant cefn gwlad wedi bod i Anwen a holl blant y Gwyndy. Cyflwynodd Anwen hefyd rodd hael at yr achos.
Dyma noson hwyliog a chymdeithasol iawn a chodwyd swm anrhydeddus at y capel yn y broses. Efallai fod angen rhagor o nosweithiau tebyg, yn gyfle i drigolion y pentref ddod ynghyd i gael sgwrs a rhannu atgofion.