Yn yr Ardd gyda Huw Williams

Merched y Wawr Tregaron

Delyth Rees
gan Delyth Rees

MERCHED Y WAWR

Nos Fercher, 5ed o Ebrill estynnwyd croeso i’r aelodau i’r Cyfarfod Blynyddol gan Catherine Hughes y Llywydd. Trafodwyd rhai materion cyn mynd ymlaen i groesawu a chyflwyno’r gŵr gwadd sef Huw Williams o Silian. Prin oedd angen ei gyflwyno gan ei fod wedi bod yn athro Celf ac Arlunio yn Ysgol Henry Richard ers 1985. Athro sy’n fawr ei barch i genedlaethau o blant dros y blynyddoedd.

Mae Huw yn enedigol o Lanfairfechan a bellach yn byw yn Silian gyda’i wraig Eleri. Mae diddordeb mawr ganddo mewn garddio ac mae wrth ei fodd yn cynllunio a threfnu’r ardd. Trwy gyfrwng sgwrs a llun cafwyd cyfle i weld yr ardd a diddorol oedd clywed yr hanes fel mae wedi datblygu o’r dechrau cyntaf ar Fferm Coed Parc.

Cafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddo ac roedd y lluniau yn dangos y gwahanol goed, blodau a phlanhigion o bob math. Roedd dahlias yn un o’i ffefrynnau ac roedd yna liwiau trawiadol ac yn dangos yr ardd yn ei gogoniant. Fel y gwyddom, mae’n arlunydd o fri ac mae’n hoff iawn o fywyd gwyllt ac yn creu darluniau hyfryd ac mae wedi neilltuo rhan fach o’r ardd ar eu cyfer. Eglurodd ei fod yn trin yr ardd fel y mae’n trin darlun.

Talwyd y diolchiadau gan Ann Morgan a dweud fod ganddi edmygedd mawr o Huw fel cyd athro dros y blynyddoedd a bod ei dalent fel athro celf ag arlunio yn arbennig. Mae’n amlwg ei fod yn arddwr penigamp a bod y sgwrs a’r lluniau yn dyst o’i ddiwydrwydd a’i ofal o’r cyfan. Wrth deithio heibio Swyn y Coed byddwn yn gwybod nawr am yr ardd hyfryd sydd yn cuddio tu ôl y coed Leylandi!

Diolchwyd hefyd i Ann Jones ag aelodau’r Pentre am baratoi paned. Enillwyd y gwobrau raffl a oedd yn rhoddedig gan Marwin Evans gan Fflur Lawlor a Margaret Lewis. Yn ystod y noson aethpwyd ati i bleidleisio ac ethol is-swyddogion a phwyllgor am y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i Vernon Jones a David Edwards am gyfrif y pleidleisiau ac fe gyhoeddir yr enwau yn yr adroddiad nesaf.