Whant wâc rownd Coed y Bont?

Hoff daith gerdded aelod o Glwb Cerdded Tregaron – Jim Cowie

Screenshot-2022-07-06-at-17.13.22Taflen 'Coedwig Gymunedol Coed y Bont'

Dyma daith fach hyfryd i’r rhai ohonoch fydd yn ymweld ag ardal Tregaron dros yr haf, ac mae hefyd yn wâc braf i bobol leol ei mwynhau.

Mae Coed y Bont yn goetir cymunedol ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid, i’r gogledd o Dregaron.

Mae’n ardal o goetir cymysg tua 60 erw o faint, ac mae yno amrywiaeth o lwybrau cerdded – o rai gwastad sydd â mynediad hawdd ar wyneb graean caled, i lwybrau mwy serth ar dir mwy garw.

Mae’r map yn y llun yn dangos sawl llwybr. Y llwybrau coch yw’r llwybrau gwastad hawdd; mae dewis o ddau lwybr, sef Llwybr Aspen sydd tua 400 metr, a Llwybr Coed Bedw sydd tua 750 metr o hyd.

Y rhai mewn glas yw’r llwybrau mwy serth a garw sy’n rhoi opsiynau ar gyfer taith gerdded o hyd at 2 gilometr. Mae ardal bicnic gyda byrddau wrth fynedfa’r coetir a meinciau eraill ar wahanol fannau ar hyd y llwybrau.

Gwobrau

Mae Coed y Bont wedi derbyn sawl gwobr am y cyfraniad y mae’n ei wneud i’r amgylchedd a’r gymuned. Mae wedi bod yn safle Baner Werdd ers sawl blwyddyn, ac yn 2019 daeth yn un o safleoedd Darganfod y Wybren Dywyll ym Mynyddoedd Elenydd. Yn yr un flwyddyn fe’i dewiswyd gan Lywodraeth Cymru fel un o’r 14 safle Coedwig Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru.

Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yng Nghoed y Bont ac mae’n safle y mae’r gymuned leol yn meddwl lot ohoni, fel ased enfawr i’r ardal. Mae hyd yn oed wedi ysbrydoli rhai pobol leol i gymryd rhan yn y gwaith o reoli a gofalu am y coetir, ac mae gennym griw rheolaidd ac awyddus o wirfoddolwyr sy’n troi lan bob mis i gydweithio.

Manylion ymarferol:

  • Mae’r mynediad oddi ar y ffordd fach sy’n rhedeg rhwng y pentref a safle hanesyddol yr abaty yn Ystrad Fflur: dim ond taith fer sydd i lan y ffordd o faes yr Eisteddfod.
  • Mae maes parcio wrth y fynedfa.