Tregaron ar ei fyny!

Hanes busnesau newydd

gan Cyril Evans

Gyda bwrlwm yr Eisteddfod yn cynyddu ymhob agwedd o Dregaron wrth i’r baneri cyhwfan ar hyd y dre ac yn y pentrefi cyfagos, mae’n dda o beth i nodi fod bywyd masnachol y dre wedi cynyddu’n ogystal.

Mae yna dair busnes newydd wedi agor, ac rydym yn wir ‘obeithio y bydd hyn yn nodi cyfnod llewyrchus iawn i’r dref ac i’r ardal gyfan.

Toms of Tregaron

Dyma gaffi diweddaraf y dre, sydd wedi’i leoli ar Stryd y Capel. Y perchnogion yw Roy ac Andrea Preece, ac maent yn cynnig croeso cynnes mewn awyrgylch cartrefol ac urddasol.  Mae’r fwydlen amrywiol yn cynnwys brecwast drwy’r dydd, gyda phrydiau arbennig dyddiol gyda darpariaeth lysieuol.  Mae bwriad i agor gyda’r nos, yn ogystal â chynnig cinio dydd Sul ymhen amser.

Maent hefyd yn darparu llety gwely a brecwast.  Mae’r caffi ar agor yn ddyddiol, ond ar gau dydd Sul a Llun.

Medical Hall Newydd

Mae’r Medical Hall sydd ar y Sgwâr Fach wedi ail-agor ond ar ei ‘newydd’ wedd.  Mae’r perchennog, Evie Windle yn wreiddiol o Ysbyty Ystwyth, wedi dychwelyd i’r ardal i agor siop sy’n arbenigo mewn iechyd a lles, gyda phwyslais ar bethau naturiol, moesegol a gwyrdd.  Mae hyn i gyd yn cael ei adlewyrchu yn y cynnyrch , crefftau lleol a phlanhigion sydd ar werth.  Mae’r siop ar agor pob dydd rhwng 10.00 a 6.00, ond ar gau ar ddydd Sul a dydd Mercher.   Cofiwch alw i mewn, ac edrychwch allan am y goeden!

Cacennau Gwen

Dyma siop newydd Gwen Bullman-Rees o Dregaron.  Wedi blynyddoedd o weithio o adre, fe ddaeth yr amser i ehangu ac i agor siop ei hunan ar Heol yr Orsaf.  Mae Gwen eisoes wedi bod yn gweithio i gwmni pobi yn Llambed, ac yn ôl y rhes o bobl oedd yn ei disgwyl ar y diwrnod cyntaf mae’r busnes yn siŵr o lwyddo!  Mae’r fwydlen yn cynnwys  llu o wahanol gacennau o bob lliw a llun, ac yn dod a dŵr i’m dannedd wrth feddwl amdanynt.  Yn ogystal cynigir brechdanau a phrydiau salad i fynd ynghyd a chyfle i archebu cacennau ar gyfer achlysuron arbennig.

Mae gan Dregaron ar hyn o bryd 9 le bwyta. Rwy’n credu fod y dre i fwytawyr yn gywir fel mae’r Gelli i ddarllenwyr!!