Trefnus neu rhy drefnus?

Tips i drefnu eich wythnos yn yr Eisteddfod

gan Meleri Morgan

Sai’n gwybod amdanoch chi ond fi ffili aros i Eisteddfod Tregaron. Rwyf wedi bod yn mynychu’r Eisteddfod Gen ers blynyddoedd maith, ac yn lled ddiweddar mae fy chwaer a minnau wedi bod yn gwersylla am yr wythnos gyfan. A dyna pryd sylweddolais mawrder rhaglenni y pebyll gwahanol. Agorwyd ein llygaid pa mor bwysig yw trefnu amser yn effeithlon neu troedio’n ddi-bwrpas am oriau mewn baw a llaid y byddwn ni.  Wedi dwy flynedd o Cofid dwi’n edrych ymlaen yn arw i dreulio wythnos yn yr Eisteddfod a hynny o foethusrwydd gwely yn hytrach na ‘air bed’.

Mae’n ddefod flynyddol bellach i greu taenlen gyda’r amserlen am yr wythnos.

Mae’n system rhwydd – lliw gwahanol i bob pabell.

Dyma ambell uchafbwynt i mi ar gyfer yr wythnos.

Mae llawer o ddigwyddiadau diddorol wedi dod i glawr eleni.

Yn Theatr y Maes mae darlleniad o Ddrama Torth Stêl ar y dydd Sul. Darlleniad o ddrama newydd sbon gan ferched ifanc o Geredigion.

Llwyfan nad wyf wedi ymweld llawer ohono o’r blaen yw Encore – mae digwyddiad dyddiol am 1.30 lle mae teulu cerddorol o Geredigion yn sgwrsio, felly edrychaf ymlaen i glywed hanesion cymeriadau adnabyddus.

Cystadleuaeth rwy’n gwylio yn flynyddol yw y Ddrama ar ôl cinio yn Theatr y Maes. Cwmniau amatur yn cyflwyno drama Hanner awr. Cystadleuaeth wych gyda chymysgedd o gomedi a’r llon i ddramau difrifol. Maent wastad yn safonol ac edrychaf ymlaen i weld y cwmniau eleni eto.

Mae llawer o ddigwyddiadau Cyffrous Theatr Stryd eleni gyda’r carnifal nos Sadwrn i ddigwyddiad Parti Pinc gan y ‘Welsh Ballroom Community’ Nos Iau sydd yn swnio’n hynod o gyffrous. Nid oeddwn yn ddigon ffodus i weld Qwerin, felly roeddwn mor falch i’w weld ar y rhaglen. Mi fyddai’n cadw llygaid barcud i weld y perfformiad creadigol arbennig yma.

Mae digwyddiadau mawr y Pafiliwn wastad yn uchafbwynt a dwi methu aros i weld CABARELA yn y pafiliwn, dwi’n cofio bod yng Nghaffi Maes B lle cynhaliwyd yr un cyntaf, maent wastad fel cwmni yn llwyddo i wneud i mi chwerthin yn fy nyblau.

Os ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod am y tro cyntaf – cymerwch bip ar Facebook yr Eisteddfod – mae rhaglenni y pebyll i gyd arnynt. Mae’n werth gwneud hyn er mwyn peidio colli mas ar yr arlwy cynhwysfawr.

Os welwch chi fi ar y maes bydd y daenlen yn fy llaw mae’n siwr!

Joiwch!