Teulu yw prif wythïen Clwb y Bont

Clwb Pêl-droed Bont yn dathlu 75oed

Dewi Siôn Evans
gan Dewi Siôn Evans
125463218_mediaitem125463217

Clwb Y Bont gyda tharian wrth draed y capten ar y pryd a llywydd y clwb eleni, John Meredith

Sylfaen clwb pêl-droed gwledig yw teulu, ac ar achlysur dathlu Clwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid (Clwb y Bont) yn 75oed mae’n hynod ddiddorol edrych ar sawl aelod o’r un teulu sydd wedi gwisgo’r crys oren llachar byd-enwog!

Mae’r cyn-ohebydd newyddion John Meredith yn Llywydd newydd ar y clwb eleni. Bu’n gapten yn 1967 gan ddilyn ôl traed ei dad fel chwaraewr, a chwaraeodd dau fab John i Bont yn y 90au yn ogystal â mab ei frawd.

Dyma rai aelodau eraill o’r un teulu sydd wedi cael yr anrhydedd o chwarae dros Glwb y Bont:

• Wil John a Glyndwr Hughes

• Jim Jones a’i feibion Dai John a Robert (Hoff)

• Gwyn a Gwynfryn Hughes, Llwyngwyddil

• Ted a Trystan Jones

• Lyn a Dylan Ebenezer

• Gwilym Evans a’i feibion Aled ac Iwan

• Arwyn a Sion Hughes, Brynhope

• Richard (Dici Mint) Jones, ei fab Sion a Geraint ei frawd

• Ian Hughes a’i feibion Trystan a Gwydion

• Raymond, Ceri a Ben Jenkins

• Dewi ac Ifan Evans, Tynrhos

• Michael a Scott Lowe

3 sylw

Dewi Siôn Evans
Dewi Siôn Evans

Gallwch chi enwi mwy?

Steffan Huxtable
Steffan Huxtable

Gwyn Hughes yw fy Dad cu, a Gwynfryn Hughes yw fy wncl ??

Dewi Siôn Evans
Dewi Siôn Evans

Wedi derbyn neges i ddweud bod pedair cenhedlaeth o ‘Hughesiaid’ wedi chwarae dros Bont; John, Idris, Geoffrey a Meilyr Hughes o Dregaron…ardderchog!
Dim ond rhai enwau i gychwyn y drafodaeth sy’n yr erthygl, mae’n siwr bod llawer mwy…ychwanegwch eich enwau at y sgwrs!

Mae’r sylwadau wedi cau.