Tecwyn Ifan arwr cerddoriaeth Cymru

Dylawad Bont a’r ardal ar y cerddor.

gan Gwenllian Beynon
Tecwyn IfanTecwyn Ifan
Y-Wobr-ar-Heno

Gwobr Tecwyn Ifan ‘Cyfraniad Arbennig Y Selar 2021’ ar Heno Mawrth 4ydd 2022

Tecwyn-Ifan-ar-Heno-Mawrth-2022

Tecwyn Ifan ar ‘Heno’ Mawrth 2022 yn derbyn y wobr

Yng ngwobrau’r Selar eleni cafodd Tecwyn Ifan ei gwobrwy am ei gyfraniad arbennig i gerddoriaeth yng Nghymru. Bu Tecwyn Ifan a’i deulu yn byw ym Mhontrhydfendigaid yn ystod yr 80au ac fel y gwelwyd ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i Tecwyn ennill y wobr roedd nifer fawr o bobl leol yn ei longyfarch ac yn falch iawn am yr anrhydedd yma.

Ni yma ym Mhontrhydfendigaid a’r cylch eisiau estyn ein llongyfarchiadau mwyaf i Tecwyn Ifan ar ennill y wobr, ac meddai Tecwyn “Tipyn o sioc a syndod oedd derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig 2021 Y Selar yn ddiweddar. Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n ddiolchgar iawn i Selar am feddwl amdana i!’

Mae cerddoriaeth Tecs wrth gwrs yn adnabyddus ar draws Cymru a thu hwnt gyda rhai o’i ganeuon wedi cael ei dylanwadu gan ein hardal efallai’r un mwyaf amlwg yw Stesion Strata (Sain 1990) ac ar ddechrau’r gân gwelir sôn am bethau hynod o adnabyddus i ni’n lleol.

“Ffarwel i Stesion Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur, Ffarwel i Lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur, Ffarwel i’r grug a’r fawnog y llwch a’r gweithe mwyn…. ;

Yn yr 80au bu Tecwyn Ifan yn byw ym Mhontrhydfendigaid ac yntau yn bregethwr capel y bedyddwyr a meddau am y cyfnod yma…

Bues i’n byw ym Mhontrhydfendiagaid am sawl blwyddyn yn ystod yr 1980au, ar ôl dod yn weinidog yng nghapel Carmel a Bethel Swyddffynnon. Roedd yn gyfnod hapus iawn yn ein hanes ni fel teulu. Yno ganwyd Gruffudd a Gwawr, a phrin un oed oedd Gwenno pan symudon ni yno.

Mae llawer o atgofion hapus gyda fi o’r cyfnod yn y Bont, megis cyffro a bwrlwm Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen bob mis Mai (pan gawn ganu Gweddi’r Orsedd mewn ambell seremoni!), dechre Aelwyd yr Urdd Ystrad Fflur a gwylio tîm pêl-droed y Bont.

Yn ystod y blynyddoedd hynny cafodd tîm pêl-droed Abertawe ddyrchafiad i’r brif adran, ac fe fyddai llawn car neu ddau ohonom yn mynd lawr i’w gwylio nhw’n chwarae ambell noson ganol wythnos. Rwy’n dal i gofio blas y pastai gig cyn dechre am adre! Ken Jones oedd y pen bandit, ac roedd Ken yn yr uchel fannau pan roedd West Ham wedi curo – er bo ni yno i gefnogu’r tim cartre!

Yn ystod fy amser yn y Bont ro’n i’n mynd i wersi cynghanedd bob nos Iau yn Cross Inn Ffair Rhos gyda’r athro Roy Stephens. Yno y lluniais ambell englyn a chywydd am y tro cyntaf, ac un awdl hyd yn oed, a enillodd i mi fy unig gadair eisteddfodol yn Eisteddfod Talgarreg yn 1987.

Colled enbyd oedd colli Roy Stephens ac mewn hiraeth amdano yr ysgrifennais y gân ‘Nos Iau’. I’r cyfnod hwnnw hefyd y perthyn y caneuon ‘Cân Yr Eos’, ‘Ofergoelion’ a ‘Stesion Strata’ heb anghofio’r anfarwol ‘Dwmp Ty’n Graig’!!

Ie, coffa da am ein dyddiau yn y Bont ac am gwmni llu o gymeriadau nad oedd eu tebyg yn unman!

Tecwyn”

Atgofion o ddyddiau da yma ym Mhontrhydfendigaid a Swyddfynnon.

Ar heno nos Wener 4ydd o Fawrth, wrth hefyd cofio am Dai Llanilar, cyflwynwyd y wobr i Tecwyn Ifan- darn o glytwaith hynod o brydferth gan yr artist ifanc o Sir Benfro Ffion Richardson. Mae Ffion yn gweithio fel artist preswyl yng Ngholeg Celf Abertaw, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac meddai am y gweithiau celf yma ‘Mae bob collag unigryw wedi eu dylanwadu wrth wrando ar ganeuon Cymreig er enghraifft ‘Môr o Gariad’ gan Meic Stevens; ‘Aberystwyth yn y Glaw’ gan Ysgol Sul; ‘Cwîn’ gan Gwilym’.

Gwelir mwy am waith Ffion ar ei Instagram @clai-gan-ffion.

Neges gan Tecwyn Ifan i Caron360 ‘Diolch hefyd am ddiddordeb Gwefan Caron360 yn y stori’

Llongyfarchiadau enfawr i Tecwyn Ifan ar ennill y wobr yma a gobeithio cawn gig fach i ddathlu yn fuan?