Taith 100 ar Y Copa yn codi dros £3000 tuag at gronfeydd lleol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022-o’r diwedd!

Cymunedau Croeso i Gerddwyr Ceredigion yn cydweithio i godi arian ac ymwybyddiaeth.

gan Dafydd Wyn Morgan

Pedair mlynedd yn breuddwydio, tair mlynedd yn trefnu, dwy flynedd yn aros ac un mynydd wedi’i goncro, o’r diwedd!

Ar Ddydd Sul y 1af o Fai, a wedi dwy flynedd o aros, cynhaliwyd her noddedig 100 ar Y Copa er budd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022.

Wedi’i drefnu gan Gymunedau Croeso i Gerddwyr Pontarfynach, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul Pont-Tyweli, nod y daith oedd cyrraedd copa mynydd Pumlumon Fawr 2468tr ger Ponterwyd.

Llwyddodd 85 i gyrraedd y copa a chodwyd £3350 o bunnoedd i’r cronfeydd Eisteddfod leol.

Croesawyd y Pumlumonyddion gan gantorion Meibion Y Mynydd, côr lleol oedd yn canu’n gyhoeddus gyda’i gilydd am y tro gyntaf ers cyn y pandemig. Braf oedd clywed eu perfformiad o ‘Safwn yn Y Bwlch’ a rhyfeddol oedd gweld ymateb pawb i’w gosodiad unigryw. Can ddiolch i’r côr am eu hamser.

Doedd y tywydd ddim yn ffafriol, ond dan arweiniad arweinwyr profiadaol y bedair cymuned, cyrhaeddodd pawb yn ôl yn ddiogel o’r copa, wedi profiad heriol tu hwnt.

Er y tywydd, tynnwyd llun o bawb ar y copa ac edrychir ymlaen nawr at weld pawb yn ymweld â Thregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod (30 Gorffennaf-6 Awst 2022).

Diolchir i Mick a Nia o westy Y Talbot, Tregaron am eu haelioni gan gynnig taleb i’r person a gododd y cyfanswm mwyaf o nawdd. Diolch hefyd i Phil Bundy o Rhydyronnen/Spar Tregaron am rodd o ddŵr a banana i bawb ar ddechrau’r daith.

“Dwi’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnal y daith o’r diwedd a chael pawb nôl yn ddiogel,” meddai Siwan Jones, un o drefnwyr ac arweinyddion y daith. “Roedd bron i gant arwr ar y copa erbyn canol dydd ac er nad oedd golygfa syfrdanol i’w fwynhau, rwy’n siwr gwneith nifer ddychwelyd eto ar ddiwrnod brafiach!” ategodd Ron Foulkes un o’r cyd arweinwyr.

Diolch i Argraffwyr Lewis & Hughes Tregaron am argraffu’r mapiau casgliadwy a roddwyd i bawb ar diwedd y daith.

Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022, ymwelwch â https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2022