Stondin CFfI Tregaron

Ffair Nadolig Ysgol Henry Richard

gan Elin Williams

Mae bwrlwm y Nadolig ar fin dechrau, ac ar y cyntaf o Ragfyr, mae CFfI Tregaron am gael stondin yn ffair Nadolig Ysgol Henry Richard am y tro cyntaf erioed!  Bydd elw’r stondin yn mynd tuag at lyfrgell yr ysgol, Y Pen Dwfn.

Bydd y stondin yn cynnwys pwdinau bach blasus, ‘sosej rolls’, ‘scotch eggs’ a llawer mwy.  Hefyd byddwn yn coginio ‘crepes’ i’r cyhoedd ar y noson. Mae hyn yn meddwl llawer i ni fel clwb gan ein bod yn helpu i brynu cynnyrch a nwyddau i’r llyfrgell.  Rydym ni fel clwb wastad yn barod i helpu’r gymuned a chymunedau lleol.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld nos Iau.