“A Oes Steddfod?”….. “Oes”

Tregaron yn anelu at Eisteddfod ym Mis Awst.

Gwion James
gan Gwion James

A’r ôl gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron dwywaith oherwydd COVID 19, bydd y Brifwyl yn ymweld â Thregaron ym Mis Awst eleni.

Yn dilyn cyhoeddiad yn ddiweddar fod yr Eisteddfod wedi derbyn nawdd o £600,000 gan Lywodraeth Cymru, mae’r sylw yn awr wedi troi at Dregaron er mwyn gwireddu’r Wŷl hir ddisgwyliedig.

“Bu’r cronfeydd lleol drwy’r Sir yn brysur yn codi arian yn ystod 2019, a chyrhaeddwyd y targed ariannol o £320,000 cyn covid” meddai Arwel Jones, Cadeirydd Cronfa Leol Ceredigion.  “Mae geiriau’r bardd yn wir iawn” meddai-

‘Nid yw dwrn y Cardi’n dynn

‘Da’i gyfoeth pan fo’r gofyn’

Mae gwahoddiad yn awr i’r cronfeydd lleol i ystyried ail ddechrau cwrdd. “Mae’r pwyslais bellach yn fwy tuag at godi sylw a brwdfrydedd tuag at yr Eisteddfod yn hytrach na chodi arian yn unig” meddai Arwel. “Mae wedi bod yn ddwy flynedd ddiflas, ond rwy’n siŵr bydd y Cardis yn barod i ail- gynnai’r fflam dros y chwech mis nesa”.

Mae Cronfa Leol Tregaron eisoes wedi dechrau trefniadau.

“Ma’ cyfarfod ’da ni Nos Fawrth y 1af o Chwefror am 7.30 yn y Neuadd, ac ma’ croeso cynnes i bawb,” meddai Emyr Lloyd, Ysgrifennydd Cronfa Leol Tregaron,  “Bydd hi’n dda i weld pawb eto, cael ein hatgoffa o’r hyn ddigwyddodd yn ystod 2019 a dechrau paratoi tuag at fis Awst. Mewn 6 mis bydd Cymru gyfan yn ymweld â Thregaron, a ni ishe sicrhau fod y dre a’r ardal gyfan yn barod i’w croesawu,” meddai.

Ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r digwyddiad mwyaf yn hanes yr ardal hon. Dilynwch Caron360 dros y chwe mis wrth i ni ddod â newyddion y datblygiadau diweddaraf i chi, wrth i’r cyffro adeiladu tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Tregaron!