Shwt mae dan dra’d na?

Welis? Bŵts? Daps? Sandals?

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Dwi wedi derbyn dwy neges bore ’ma yn holi, “shwt mae hi dan dra’d ’na?”

Wel, dyma ateb i chi! Mae’r lluniau’n dangos y sefyllfa.

Mae digon o fyrddau metel ar lawr ar hyd y prif lwybrau ac mae ‘wood chip’ wedi’u gosod mewn manau â llawer o stecs.

Mae ambell batshyn gwlyb iawn ond mae’n bosib eu hosgoi.

Bydden i’n argymell welis neu fŵts heddiw, ond mae ambell un yn crywydro mewn daps ac hyd yn oed sandalau!

Fel dywedodd criw ysgol Henry Richard ddoe,. .

“Dim ots os daw y glaw a’r mwd,

Dewch bawb i mewn, mae’r lle ma’n gwd.”