Rhaid “estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad”, medd AS Ceredigion ar Ddydd Gŵyl Dewi

Dywed Elin Jones ei bod hi’n “anochel bod ein meddyliau’n troi at Wcráin a’i dinasyddion arwrol”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Elin Jones AS

Yn ei neges arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi, dywed Aelod o’r Senedd Ceredigion Elin Jones fod y sefydliad yn cyrraedd “carreg filltir allweddol” heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 1).

Am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, mae pob un o’r 60 Aelod o’r Senedd wedi cael eu gwahodd yn ôl i’r Siambr ym Mae Caerdydd, er y bydd yr opsiwn o fynychu’n hybrid yn parhau.

Ychwanega Elin Jones, sy’n Llywydd yn y Senedd, ei bod hi’n “briodol” ar ddiwrnod nawddsant Cymru i “drysori yr hyn sydd gennym” ac “estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad”.

Yn hynny o beth, fydd dim dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei gynnal yn yr adeilad wrth iddyn nhw sefyll mewn undod â’r Wcráin.

Roedd nifer wedi ymgasglu ar risiau’r Senedd neithiwr (nos Lun, 28 Chwefror) i ddangos undod gydag Wcreiniaid hefyd, gan gynnwys yr Aelodau o’r Senedd Adam Price a Mick Antoniw.

‘Carreg filltir allweddol’

Yn ei neges fel Llywydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, manteisiodd Elin Jones ar y cyfle i edrych yn ôl dros gyfnod y pandemig.

“Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd,” meddai.

“Fel Seneddau ledled y byd, mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Fe barhaodd democratiaeth yng Nghymru, hyd yn oed yn nyfnderoedd y clo mawr.

“O ganlyniad i ddyfeisgarwch ac ymrwymiad y Senedd i’w phobol, roedd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau – penderfyniadau a effeithiodd ar fywydau pob person yng Nghymru.

“Mae heddiw yn garreg filltir allweddol i ni. Am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, gwahoddir pob un o’r 60 Aelod i ddod i’r Siambr eto.”

‘Wcráin a’i phobol yn parhau yn ein calonnau’

Ond fe fydd sefyllfa’r Wcráin yn parhau i fod ar feddyliau’r holl aelodau sy’n cyfarfod heddiw, yn ôl y Llywydd.

“Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes ein Senedd, mae’n briodol ein bod – ar Ddydd Gŵyl Dewi – yn oedi ac ystyried digwyddiadau rhyngwladol,” meddai Elin Jones wedyn.

“Yn gyfle i gydnabod pwysigrwydd ein strwythurau democrataidd ac eto pa mor fregus maent yn gallu bod.

“Mae’n anochel bod ein meddyliau’n troi at Wcráin a’i dinasyddion arwrol sy’n dioddef caledi anhygoel wrth frwydro i ddiogelu a chynnal eu cenedl sofran, eu democratiaeth falch, a’u ffordd o fyw.

“Rydym yn meddwl am y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol niferus y mae Cymru’n eu rhannu ag Wcráin a’r gymuned Wcreinaidd uchel ei pharch sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddi.

“Unwaith eto heno, fe fydd y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin fel arwydd o’n undod â hwy. Mae Wcráin a’i phobol yn parhau yn ein calonnau.

“Ar Ddydd Gŵyl Dewi yma felly, dewch i ni drysori yr hyn sydd gennym ac hefyd estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad.”