Parti Camddwr. Mae’n hen bryd canu ‘to!

Y parti am ail-ddechrau ymarfer wedi dwy flynedd hir iawn.

gan Efan Williams

Parti Camddwr

Wedi cyfnod hir ar stop ers dyfodiad Covid-19, mae’n amser dechrau cyfarfod a chanu unwaith eto, nawr fod pethau yn dechrau edrych yn well. Mae’n anodd credu ei fod wedi bod dros ddwy flynedd ers i ni gwrdd diwethaf fel parti. Y tro diwethaf i ni gyfarfod yn gyhoeddus oedd i gystadlu yn Eisteddfod Swyddffynnon yn Chwefror 2020. Mae hyn yn teimlo fel oes yn ôl erbyn hyn ac mae’r byd wedi newid llawer yn y cyfamser.

Wedi dweud hyn, byddwn ni yn ôl yn 2023 i ymuno yn y dathlu wrth i Eisteddfod Swyddffynnon droi yn 150 mlwydd oed, a chyn hynny, anelwn at gystadlu eleni yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid ddiwedd Ebrill, er bydd rhaid aros i weld faint o siâp sydd ar y “peips” cyn hynny, ac yna ymlaen i fwynhau profiadau Eisteddfod Genedlaethol ar stepen ein drws yn yr Haf.

Bydd rhaid dathlu pen-blwydd y parti yn 10 mlwydd oed rhywbryd, ac mae CD yn hanner parod i’w gyhoeddi, er mae’n siŵr y gwnewch faddau i ni os yw’r ddau beth dipyn bach yn hwyr yn digwydd! Cofiwn ein cyngerdd ffurfiol cyntaf yn diddanu Cymdeithas Cyfeillion Cofadail yng Nghapel Moriah ger Trefenter ym mis Rhagfyr 2011. Mae llawer o ddŵr wedi llifo o dan bont y Camddwr ers hynny!

Felly ar drothwy cyfnod newydd i ni fel ardal ac fel parti, dymunwn bob dymuniad da i holl drigolion ardal y Barcud am y cyfnod sydd i ddod a gobeithiwn eich gweld mewn cyngerdd neu eisteddfod yn fuan.

Mae’r parti yn gobeithio ychwanegu ambell i aelod yn y dyfodol agos, yn enwedig yn y bas, felly os oes gennych ddiddordeb cysylltwch gydag Efan ar 07791163436 neu e bostiwch efanmiles@gmail.com.