Parti Calan Gaeaf Llanddewi-Brefi

Gwrachod, clowns a phob math o fwci-bos

received_594729772427683Rebecca Martin
received_1148459342434124Rebecca Martin
received_1189416885254141Rebecca Martin
received_500539282121959Rebecca Martin
received_669489381407801Rebecca Martin
received_2012011092323465Karli Poole
received_820481149377686Karli Poole
received_2707855529349937Karli Poole
received_619956419873842Karli Poole
received_467685762099502Karli Poole
received_677989323940303Joanne Ludlow
received_795466404862305
received_1619282131861622

Daeth dros 80 o blant ynghyd â’u rhieni a gwirfoddolwyr i  Neuadd a Chanolfan Llanddewi Brefi ar Noson Calan Gaeaf i gyd- ddathlu gydag aelodau’r Clwb Ieuenctid.

Roedd  pawb yn eu gwisg ffansi yn gwrando ar gerddoriaeth a dawnsio ym mharti’r penglogau a’r ysbrydion dan oleuni’r sgrîn ddigidol newydd.

Cyfle i fochio pizzas, candi hallt a melys, afalau taffi a losin arswydus.

Roedd tynnu lluniau dan y Bwa Balŵns du ac oren yn boblogaidd iawn.

Diolch i Gronfa Cynnal Llanddewi a’r Gronfa Platinwm doedd dim angen gwario ceiniog.

Bu cystadleuaeth dyfalu pwysau’r bwmpen yn lot o sbort a daeth ag arian i’r gronfa. Rhiannon Eve oedd yr enillydd. Da iawn hi.

Aeth y plant ar drywydd cliwiau ac i  grynhoi melysion o dŷ i dŷ cyn i’r glaw eu gorfodi yn ôl i’r Ganolfan.

Diolch i bawb a helpodd gyda’r noson. Dyna beth oedd sbort!