gan
Efan Williams
Mae Parti Camddwr yn cynnal noson gymdeithasol anffurfiol ar nos Wener 18 Tachwedd yn Nhafarn y Bont, Bronant. Noson hwyliog i ddathlu ail-ddechrau’r parti ar ôl y cyfnodau clo a chyfle i ddod i adnabod ambell i aelod newydd sydd wedi ymuno yn ddiwedar yn well. Bydd y noson yn dechrau tua 8pm a bydd y parti yn canu ambell i gân tua 9pm.
Dewch yn llu i ymuno gyda ni am gân, clonc a chymdeithasu!