Naws y Nadolig yn Lledrod

Carol a Chymdeithasu yn Lledrod

gan Efan Williams
2

Cynhaliwyd prynhawn hyfryd o foli, canu carolau, cymdeithasu a goleuo’r goeden Nadolig yn Lledrod ar brynhawn dydd Sul 4 Rhagfyr. Hyfryd oedd tynnu holl drigolion y pentref at ei gilydd i ddathlu cychwyn yr ŵyl.

Yn gyntaf cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Sant Mihangel, Lledrod. Daeth nifer fawr ynghyd yn yr eglwys i ganu carolau Nadolig. Cafwyd perfformiadau hyfryd gan ddisgyblion Ysgol Rhos y Wlad, Bronant a diolch i’r pennaeth Huw Davies a’r staff am eu cefnogaeth. Cafwyd neges bwrpasol gan y Parchedig Julian Smith.

Yna cerddodd pawb i lawr i sgwâr y pentref a hyfryd oedd gweld pobl yn ymuno â ni wrth i ni gerdded heibio’r tai. Erbyn cyrraedd y sgwâr roedd tyrfa sylweddol wedi casglu ynghyd. Cafodd pawb lymaid o win poeth a mins pei wedi eu paratoi a’u gwasanaethau gan aelodau CFFI Lledrod, yna canwyd cwpwl o garolau.

Diolchodd Efan i bawb am ddod ynghyd, i’r eglwys am, drefnu’r gwasanaeth, i’r ysgol am gefnogi ac i’r CFFI am drefnu’r lluniaeth yna cyfrodd pawb lawr o ddeg a goleuwyd y goeden. Diolch i deulu James, Henbant am drefnu’r golau.

Yna daeth criw draw i Ysgol Rhos y Wlad ym Mronant i fod gyda’r plant wrth iddynt oleuo eu coden hwythau ar faes chwarae’r ysgol.

Carem ddiolch o galon i bawb am ddod ac am sicrhau digwyddiad mor llwyddiannus oedd yn wir yn llonni’r galon. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb o holl drigolion Lledrod. Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yn ein hardal er gwaethaf holl drybini’r byd, fel y dywed Dic Jones;

Am i seren wen gynnau – dywys dyn

Hyd stabal pob rhinweddau,

Y mae, er pob rhyw waeau,

Le i ni oll lawenhau.