Merched y Wawr Tregaron

Aelodau Merched y Wawr yng nghwmni Mirain Haf

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Nos Fercher, 7 Rhagfyr daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i’r Neuadd Goffa a chroesawyd pawb gan Catherine Hughes, y Llywydd.  Dechreuwyd trwy ganu anthem y mudiad gyda Jane Hughes yn cyfeilio.

Ar ôl trafod rhai materion estynnwyd croeso i Mirain o ‘Gacennau Mirain Haf’.  Mae wedi dechrau busnes ei hun ers sawl blwyddyn yn gwneud cacennau ar gyfer pob achlysur a hefyd yn paratoi te prynhawn a bwffes i bartïon.

Roedd y byrddau wedi eu gosod yn barod i’r aelodau gymryd rhan!  Aed ati o  dan gyfarwyddyd Mirain i greu dyn eira, pengwin a robin goch o’r eisin er mwyn addurno cacennau cwpan.  Cafwyd llawer o hwyl ac roedd y tawelwch ar adegau yn dyst fod pob un yn canolbwyntio cymaint wrth eu gwaith. Roedd y cyfan yn werth eu gweld ar y diwedd!

I ddilyn mwynhawyd paned o de, bisgedi a mins peis a baratowyd gan aelodau Stryd y Capel, Penrodyn a Stryd yr Orsaf.

Ann Jones ddiolchodd i Mirain am noson ddifyr ac am y gwaith paratoi a wnaed ymlaen llaw.  Dymunwyd yn dda iddi hi a’r fusnes i’r dyfodol.

Enillwyd y wobr raffl a oedd yn rhoddedig gan Lisa Jones gan Averinah Davies.

Gorffennwyd gyda Catherine yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb