Merch o Dregaron yn Ffisio tîm y DU yn gemau Invictus

Mae Beth Langley wedi ei dewis yn ffisio ar gyfer y gemau Invictus yn yr Hague y mis yma, merch yw I Dr Carl a Mrs Cate Langley

gan Fflur Lawlor
4119AEB2-E168-4A17-8980

Gweler Beth cyntaf ar y chwith yn y llun

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron mae Beth erbyn hyn yn gweithio fel ffisiotherapydd i Dorset Orthopaedic, cwmni sy’n gweithio gyda phobol sydd wedi colli braich neu goes neu yn bara-Olympian, mae hefyd yn gweithio gyda un o gwmniau mwya prosthetics, Ottobok.

Wrth iddi wylio y gemau Invictus cyntaf tua deng mlynedd yn ôl ei huchelgais pryd hynnu oedd i weithio yn Parasport.  Fel rhan o’i swydd, bu i Beth gyfarfod gydag un o uwchswyddogion y Fyddin oedd yn gweithio gyda feterans a’r gemau Invictus ac fe anogodd hi i fynd am y swydd gyda’r gemau.

Erbyn hyn, mae Beth newydd orffen yr ymarfer ola cyn iddi ddechrau fel ffisio tîm y Deyrnas Unedig a theithio allan i’r Hague ar gyfer y gemau yng nghanol y mis.  Mae’n gwneud y gwaith yma yn wirfoddol ac yn ei hamster sbar.

Pob hwyl i Beth gyda’r gwaith a dymuniadau gorau i’r tîm.