Mari a Mickey

Mari Williams yn canu yn Euro Disney

gan Elin Williams
IMG_4441

Donald, Daisy a Goofy ar y llwyfan

mari-mick-1

Mari yn yr ail res

IMG_4451

Y lygoden ei hun – Mickey Mouse

IMG_4430

Mae un o aelodau ein clwb sef Mari Williams, clwb CFfI Tregaron wedi bod allan yn canu gyda chôr Only Kids Aloud, yn Disneyland Paris!  Roedd Mari yn canu mewn pedair sioe, dwy ar y dydd Sadwrn a dwy ar y dydd Sul.

Roeddent yn teithio mewn bws dros nos yr holl ffordd i ‘Dover’, ac yna i Euro Disney ar y cwch.  Teithio am oriau, pawb yn cysgu ar y bws, ac wedi blino yn lan erbyn cyrraedd.

Canu mewn côr gyda chymeriadau ‘Disney’ oedd y profiad, ac yn wir roedd yn brofiad gwych!  Yn ogystal â hyn, roeddent yn cael y siawns i grwydro’r parc, ac i fynd ar rai o’r reidiau.  Mae hyn wir wedi bod yn brofiad gwych i Mari, ac fel clwb rydym yn browd iawn ohoni!