Marchnad Nadolig Bont

’Dolig Bont yn Pafiliwn Pontrhydfendigaid Dydd Sul 20 Tachwedd 10.30-4

gan Gwenllian Beynon
Poster-nadolig-bont-Add-dwy-2

Marchnad Nadolig Bont 2022

2018

Y Farchnad yn 2018, mae wedi tyfu ers hynny

2019

Plant yn canu 2019 a digon o ymwelwyr.

y-pafiliwn

Y Pafiliwn

2018-3

Byrddau wedi gosod yn 2018 mae’n anhygoel y trawsnewidiad gyda’r holl stondinau wedi eu gosod.

2018-2

Digon o le i gymdeithasu a mwynhau te, cacen a chlonc

Dewch i Bafiliwn Pontrhydfendigaid dydd Sul 20 Tachwedd i Farchnad Nadolig Bont. Mi fydd amrywiaeth eang o anrhegion unigryw ac arbennig, bwyd a diod yr Ŵyl a mwy na 50 o stondinau. Dyma fenter gymunedol i gefnogi a hyrwyddo ymdrechion lleol. Bydd adloniant tymhorol a lluniaeth yn creu naws Nadoligaidd wrth i chi chwilio am eich anrhegion, dan un to beth bynnag y tywydd.

Sefydlwyd ’Dolig Bont 9 mlynedd yn ôl gyda’r nod o greu cyfle i artistiaid a chrefftwyr werthu eu cynnyrch ond daeth yn amlwg yn fuan y gallai Marchnad ’Dolig Bont fod yn llawer mwy na hyn ac felly mae’n bosibl prynu bwyd, diod ac anrhegion o bob math ac ar yr un pryd i brynu ac i gefnogi’n lleol.

Mae hon yn farchnad ag ysbryd cymunedol gwirioneddol ac mae’r fenter gyfan yn cael ei rhedeg a’i threfnu gan lawer o wirfoddolwyr o’r gymuned. Ac i ychwanegu at y profiad darperir gwin cynnes di-alcohol i gynhesu ysbryd y Nadolig. Mae yna hefyd luniaeth ar gael yn y pafiliwn gyda digonedd o le i eistedd a chymdeithasu ac i fwynhau’r adloniant gan blant yr ysgol a’r ysgol sut, carolau Nadolig a pherfformwyr lleol i ychwanegu at awyrgylch y Nadolig.

Nod arall y fenter yw cefnogi elusennau lleol, hyd yma rydym wedi codi dros £5000. Mae rhoddion wedi cynnwys yr ysgolion cynradd a meithrin lleol, Dash, Clwb cinio Tregaron ac Ystrad Meurig, Clwb Cymreictod Ysgol Henry Richard, HAVAV, Pulmonary ffibrosis, Uned Chemotherapi Aberystwyth,  diffibriliwr lleol, Parc Anharad, Brwydr y Bandiau 2022, Coed y Bont hysbysebion lleol ac yn ychwanegol at hyn rydym yn cefnogi pwyllgor y pafiliwn a’r pafiliwn ei hun. Mae ’Dolig Bont yn fenter economi gylchol a thrwy wirfoddoli mae pob elw yn mynd tuag at elusennau ac felly mae eich £3 chi wrth y drws yn werthfawr iawn i gefnogi’n lleol.

Cynhelir y farchnad ddiwedd Tachwedd ym mhob blwyddyn ac oherwydd ehangder y pafiliwn mae’n mynd ymlaen beth bynnag fo’r tywydd (heblaw am amodau gaeafol eithafol wrth gwrs). Mae digon o le i barcio ar gyfer stondinwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd a digon o le ar gyfer amrywiaeth eang o stondinau gydag amrywiaeth o gynnyrch at ddant pawb.

Bydd y farchnad eleni ar ddydd Sul 20 Tachwedd 10.30 tan 4 o’r gloch ym Mhafiliwn Bont ym Mhontrhydfendigaid. Gallwch ein dilyn ni ar Facebook.

Blog Caron 360 2020