Dau lwyfan ym Maes B am y tro cyntaf erioed

Bydd 30 o fandiau yn hytrach nag 16 yn gallu perfformio ar lwyfannau Maes B Eisteddfod Tregaron

Nest Jenkins
gan Nest Jenkins
Mae Maes B yn denu pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fwynhau'r arlwy gerddorolMaes B
Y Cledrau yn perfformio ar lwyfan Maes B yn 2019

Fe fydd dau lwyfan byw ym Maes B Eisteddfod Ceredigion, a hynny am y tro cyntaf mewn hanes.

Y gobaith yw gallu rhoi cyfle i fwy o gerddorion Cymraeg a denu cynulleidfa ehangach i’r digwyddiad.

Ar ôl gohirio’r ŵyl am ddwy flynedd o achos Covid, a cholli nos Sadwrn olaf Maes B Llanrwst o achos y glaw, mae Maes B Tregaron yn ŵyl hir ddisgwyliedig.

Bydd cyfle i 30 o fandiau berfformio ar lwyfannau Maes B eleni, yn hytrach na’r 16 fel arfer. Bydd hefyd llwyfan DJio gyda cherddoriaeth electroneg.

Bydd Maes B yn rhedeg o nos Fercher tan nos Sadwrn olaf wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda chyfle i bobl wersylla ar y safle.

I sawl un, dyma binacl blwyddyn y sin roc Gymraeg, gyda’r bandiau amlycaf yn perfformio i filoedd o bobl.

Mae’r tocynnau eisoes ar werth, gyda’r tocynnau ‘bargen gynnar’ wedi gwerthu allan yn barod.

Gallwch brynu tocyn yma: https://maesb.com/en/tickets/