Llwyddiant yn y Siarad Cyhoeddus Saesneg

C.FF.I Lledrod

Ffion Williams
gan Ffion Williams

Bu Megan Williams, Beca Lewis ac Alaw James yn cystadlu fel tîm yn y siarad cyhoeddus Saesneg dan 16. Cipiodd Megan y wobr gyntaf fel y siaradwr gorau dan 16, bydd Megan yn mynd ymlaen i gystadlu fel rhan o dîm Sir Ceredigion yn y flwyddyn newydd ar lefel Cymru. Pob lwc iddynt!

Llwyddodd Beca Lewis i ddod yn ail fel cadeirydd a daeth y tîm yn drydydd yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau mawr i’r tair ohonoch!