Llwyddiant i G.FF.I Lledrod

Lledrod yn Eisteddfod C.FF.I Cymru

Ffion Williams
gan Ffion Williams

Teithiodd aelodau o glwb ffermwyr ifanc Lledrod i lawr i Eisteddfod C.FF.I Cymru er mwyn cynrychioli Ceredigion ar y gystadleuaeth Parti Llefaru.

Bu’r aelodau yn ddigon ffodus i gipio’r wobr gyntaf ac mae’r diolch yn fawr i Nest Jenkins am ein hyfforddi.