Lansio ymgyrch y Turfs i godi ymwybyddiaeth o Gancr y Ceilliau

Cafwyd lansiad swyddogol ddydd Sadwrn, 17 Medi

gan Sam Jones

Y tymor hwn, bydd Clwb Pel Droed Tregaron Turfs yn codi ymwybyddiaeth o gancr y ceilliau, ac ar ddydd Sadwrn 17 Medi, cyn iddyn nhw ennill adref yn erbyn Talgarth, fe lansiwyd yr ymgyrch yn swyddogol gan Meilyr a Ffion Hughes, Argraffwyr Lewis & Hughes.

Dywedodd Dilwyn Daniel, sef Cadeirydd y clwb, ac un o reolwyr y tim cyntaf, “Rydym wedi rhoi’r geiriau ‘Mae’n cymryd ceilliau i oroesu cancr y ceilliau’ ar flaen, ac ar gefn ein cit newydd, a gobeithiwn y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog dynion o bob oedran i checio eu ceilliau. Prif nod yr ymgyrch yw i godi ymwybyddiaeth ond byddwn yn cynnal un neu ddau digwyddiad yn ystod y tymor i godi arian hefyd, er enghraifft, tyfu mwstashis ym mis Tachwedd”.

Mae’r llun uchod yn dangos y tim yn gwisgo’r cit cyn y gem ddydd Sadwrn diwethaf. Diolch i Argraffwyr Lewis & Hughes am argraffu’r bwrdd ymwybyddiaeth, sydd wedi cael ei roi erbyn hyn ar y wal ger y cae pel-droed i bawb ei weld.

Cancr y gaill yw’r cancr #1 ymhlith dynion ifanc felly dyma eich atgoffa i checio eich hun, neu ewch i gael eich checio.