Hyfforddwraig Balch

Dechrau Newydd, Busnes Newydd, Ffrindiau Newydd

gan angharad lloyd-jones
Sophie yn arwain ei myfyrwraig ifancaf Betsan Lloyd-Jones, ac Percy o Pistyllgwyn
Sophie ac Megan Davies Ger Y Nant, Drefach Mewn cystadleuaeth
Sophie a rhai o’i myfyrwyr a’i ceffylau yn Siôe Llanddewi Brefi

Darcy, Awen, Betsan, Sophie, Grace ac Megan

Darcy Lambert o Lambed

Reserve Champion

Betsan Lloyd-Jones a Percy
Awen Jones ac Glanteifi Anest Coed y Gof, Llanddewi Brefi

Symudodd Sophie Stratton a’i theulu o Hereford i Ochor Dewi yn Llanddewi Brefi yn ystod y Cyfnod Clo yn 2020.

Bu Sophie yn – The Royal Agricultural College yn Cirencester yn astudio busnes a cheffylau ac o hynny wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu.

Mae Ochor Dewi yn fferm gyda stablau ac arena i bobol cadw eu cheffylau yna, ac i ddod i gael gwersi marchogaeth, neidio neu ofal ceffyl mewn unrhyw ffordd.

Mae’n cynnig gwersi un i un neu grwpiau, ac mae yna dros 30 o blant yn mynychu Clwb Merlod Clettwr yn Ochor Dewi yn aml.

Roedd yn ddiwrnod mawr iddi wrth iddi fynychu Sioe Llanddewi Brefi am y tro cyntaf ers iddyn nhw symud i’r ardal, ac wrth iddi gael y cyfle i wylio sawl un o’i myfyrwyr yn cystadlu ac arwain o amgylch y cylch mewn sawl un o’r cystadlaethau.

Sioe Fach gymunedol yw Sioe Llanddewi Brefi gyda phobol yn trafaelio o’r ardal a’r cylch a thamaid yn bellach) i gymryd rhan.

Roedd gan Sophie saith o’i disgyblion yn cymryd rhan ddoe gyda’r mwyafrif ohonynt wedi cael rhuban o ryw liw.

Ond dim yr ennill oedd yn bwysig iddi, cael manteisio ar y cyfle i wylio ei merched y mae wedi bod yn dysgu ers iddi symud yma yn y cylch.

Roedd yn amlwg pa mor browd roedd Sophie a Jane ei mam heddiw wrth wylio’r merched, ar ôl i rheini ymarfer a gweithio yn galed wrth gael eu hunain ar geffylau yn barod i gystadlu.

Mae Sophie bob amser yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd a braf iawn yw cael rhywun sydd wedi symud i mewn i’r ardal wedi sefydlu busnes llewyrchus iawn a gwneud twr o ffrindiau oes.