Haf o hwyl!

Edrych yn ôl ac ymlaen gyda changen Merched y Wawr Tregaron.

Ffion Medi
gan Ffion Medi
307421663_492648085749533

Tipyn o grafu pen wrth geisio datrys dirgelwch bocsys Jengyd!

308249151_2412631185542561

Merched Tregaron ar y sgrîn fawr yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron

308431180_500429488201163

Joio brecwast bendigedig yng nghaffi DIOD, Llandeilo

308835373_628195442158373-1

Bach o bybls a siocled ar y daith ddirgel

309365295_403792351935511

Noson agoriadol Merched y Wawr Tregaron 5/10/22 – dewch yn llu!

Haf o Hwyl!

Cafodd criw Merched y Wawr Tregaron dipyn o hwyl yng nghwmni Enfys Hatcher Davies, Iwan ac Elan Davies o  JENGYD ym mis Mehefin. Bu tipyn o grafu pen a cheisio dyfalu’r amrywiol bosau! Diolch yn fawr am y sialensiau a braf oedd gweld pob un tîm yn datrys dirgelwch y bocsys ac yn JENGYD!

Ewch i ddilyn y criw ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltwch â hwy i drefnu noson neu i brynu amlen Jengyd i wneud adref!

Daw bola’n gefen!

Penderfynodd y gangen y byddai’n braf i fynd allan am swper gyda’n gilydd gan na fu modd i ni gael ein cinio blynyddol ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cofid. Felly cawsom wledd yn y Black Lion, Llanbedr Post Steffan. Noson hamddenol yn mwynhau cloc a bwyd da.

Eisteddfod Genedlaethol Tregaron.

Croesawodd Tregaron yr Eisteddfod Genedlaethol i’r fro ac am steddfod y bu! Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cystadlu ac a ddaeth i’r brig.  Bu nifer o aelodau Cangen Tregaron yn gwirfoddoli ar stondin Merched y Wawr yn ystod yr wythnos a chafwyd premier carped coch ar gyfer y ffilm ‘Gwlana’ y bûm yn ffilmio ar ei chyfer, yn gynharach yn y flwyddyn yn y Babell Lên. Braf oedd gweld y babell yn orlawn gydag aelodau o ar draws y sir yn mwynhau’r ffilm ar y sgrin fawr.

Trip!

Er mwyn gorffen y flwyddyn mewn steil cafwyd trip dirgel wedi ei threfnu gan y swyddogion presennol sef Ffion Medi (Llywydd), Mared Jones (Ysgrifenyddes) ac Esyllt Evans (Trysorydd). Dyma oedd eu dyletswydd olaf cyn trosglwyddo’r awenau i’r swyddogion newydd sef Catherine Hughes (Llywydd) ac Ann Pugh (Ysgrifenyddes) – mae Esyllt yn parhau fel trysorydd a diolch iddi am fodloni gwneud.

Cychwynnodd y bws ben bore Sadwrn 10fed o Fedi o Sgwâr Tregaron tuag at Landeilo. Roedd yn ddiwrnod braf a chafwyd brecwast bendigedig yn Diod. Gwledd yn wir! Yna cafwyd rhai oriau i grwydro’r dref fach hyfryd hon a bu nifer yn siopa ac yn cael diod bach yn yr haul cyn ailymgynull. Rhyw 20 munud i lawr y lôn dyma ni’n cyrraedd y Gerddi Botaneg. Cafwyd prynhawn hyfryd yn crwydro’r gerddi. Cyn dychwelyd am adref, cawsom bryd o fwyd blasus iawn yn y Butchers yn Llanddarog gyda Lynwen a Dafydd Jones y cyn-chwaraewr rygbi Rhyngwladol. Diolch o galon am y bwyd a’r croeso cynnes.

Noson Agoriadol Merched y Wawr Tregaron – POPCORN A PROSECCO!

05/10/22 Neuadd Goffa Tregaron am 7.30pm. Cyfle i weld y ffilm ‘Gwlân, Gwlân, Gwlana!’

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu a hithau’n flwyddyn bwysig i’r gangen wrth iddi gyrraedd carreg filltir nodedig. Bydd yna ddathlu mawr fis nesaf wrth i Ferched y Wawr Tregaron ddathlu’r aur! Croeso cynnes i bawb ac i aelodau newydd!