Bydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn cynnal cwrs diwrnod yn cyflwyno prif egwyddorion cadwraeth adeiladau hanesyddol: o leithder i doeon i gwteri.
Oes diddordeb gyda chi mewn adeiladau hanesyddol?
Ydych chi’n berchen ar adeilad rhestredig?
A oes lle gwell i ddysgu am y pethau hyn nag yn ein hadeiladau hardd gradd 11 ac 11*?
Mae gan Nathan Gross dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag adeiladau hanesyddol. Gweithiodd ar safleoedd ar draws y byd a hefyd ar safleoedd fel Tŷ Tredegar a Chastell Powys sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd fel Castell Coety, Sain Ffagan ac Eglwys Gadeiriol Henffordd.
Cwrs diwrnod gyda Nathan Goss – Mehefin 8fed, 2022 – £75
Am fwy o wybodaeth neu am archebu eich lle, cysylltwch â ni ar e-bost: info@strataflorida.org.uk