Harri yn cyfeilio i Ysgol Henry Richard

Y cyfeilydd ifanc o Langeitho yn cael cyfle gyda’r ysgol.

gan Ianto James
Harri Evans

Harri Evans

Mae Harri Evans sy’n bymtheg oed wedi bod yn cyfeilio ar y piano ers blwyddyn bellach. Mae’n treulio sawl awr ginio yn y stiwdio gerdd yn ymarfer, ac mae’n gallu chwarae caneuon fel Ysbryd y Nos gan Huw Chiswell a Dwylo Dros y Môr. Mae wedi treulio oriau yn ddiweddar yn yr ysgol ac adref yn ymarfer ac wedi codi ei sgiliau i lefel uchel iawn.

“Rwy’n hoffi canu’r piano, ac hoffwn barhau i ymarfer a dysgu caneuon newydd,” dywedodd.

Mae wedi chwarae i’r côr yn barod yn yr Eisteddfod ac yn gwneud eto yn seremoni’r fedal ddrama dydd Iau.