Tân Gwyllt Llanddewi Brefi

Noson llawn lliw!

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG-20221107-WA0026
IMG-20221107-WA0024
IMG-20221107-WA0020

Ar nos Lun, y 7fed o Dachwedd, cynhaliwyd Noson o Dân Gwyllt gan GFfI Llanddewi Brefi yng nghaeau’r Ganolfan.

Daeth tyrfa niferus ynghyd er y rhybuddion am dywydd garw a diolch byth, cadwodd y glaw i ffwrdd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt.

Bu disgyblion iau Ysgol Henry Richard yn greu Guto Ffowc yng nghlwb yr Urdd i’w losgi ar y goelcerth fawr.

Cafwyd barbeciw ffein iawn ar y noson, stondinau amrywiol yn cynnwys gemau a bwydydd a digon o hwyl yn y parc.

Diolch i’r clwb ffermwyr ifanc am drefnu a diolch i’r Cyngor Cymuned am y cyfraniad ariannol tuag at y noson.

Noson lwyddiannus eleni eno.