Gwasanaeth Sul y Cofio Tregaron 2022

Neuadd Goffa Tregaron. 

Cerith Evans
gan Cerith Evans
8051AF92-AE80-459B-9B21
84AF431A-A7F6-41C2-B89F
BB2AF4A4-6919-4850-A65E
816A98D1-2E0E-4E7D-941A

Cynhaliwyd gwasanaeth Sul y Cofio 2022 yn neuadd Goffa Tregaron ar y 13eg o Dachwedd. Fe wnaeth yr Heddlu, y Frigâd Dân, Cyngor Tref Tregaron, ac ysbyty Tregaron  osod torch i gofio am rai sydd wedi colli eu bywyd yn y rhyfel. Cafodd enwau y bobol oedd wedi colli eu bywydau o ardal Tregaron ac o amgylch eu darllen allan gan Rhydian Wilson.

Ar ran Cyngor Tref Tregaron a phawb sydd ar y pwyllgor, diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ddoe a sydd wedi cyfrannu at yr achos. Mae eich cyfraniad yn help mawr, ac mae’n bwysig cofio’r rhai a aeth i’r rhyfel a gollodd eu bywyd er ein mwyn ni.