gan
Cerith Evans
Cynhaliwyd gwasanaeth Sul y Cofio 2022 yn neuadd Goffa Tregaron ar y 13eg o Dachwedd. Fe wnaeth yr Heddlu, y Frigâd Dân, Cyngor Tref Tregaron, ac ysbyty Tregaron osod torch i gofio am rai sydd wedi colli eu bywyd yn y rhyfel. Cafodd enwau y bobol oedd wedi colli eu bywydau o ardal Tregaron ac o amgylch eu darllen allan gan Rhydian Wilson.
Ar ran Cyngor Tref Tregaron a phawb sydd ar y pwyllgor, diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ddoe a sydd wedi cyfrannu at yr achos. Mae eich cyfraniad yn help mawr, ac mae’n bwysig cofio’r rhai a aeth i’r rhyfel a gollodd eu bywyd er ein mwyn ni.