Gethin yn bencampwr cyflenwi ŵyn

Ŵyn o safon uchel!

gan Delun Davies

Mae aelod o CFfI Tregaron sef Gethin Thomas wedi ennill y tlws cyflenwyr y flwyddyn CFfI yn y gystadleuaeth menter wŷn gyda Dunbia.

Menter gan CFfl Cymru, Dunbia (Llanybydder) a Sainsbury’s sydd yn  cynnig y cyfle i aelodau CFfl Cymru gyflenwi Wyn Cymraeg am bris premiwm i siopau Sainsbury’s drwy’r flwyddyn ydy’r fenter yma a Gethin wnaeth ennill.

Roedd Gethin yn cyflenwi wyn i Dunbia trwy’r cynllun ac efe oedd wedi cyflenwi y mwyaf o wŷn a oedd yn cyrraedd y safon angenrheidiol o fewn y cynllun.

Cafodd Gethin ei wobrwyo Ddydd Llun yn y Ffair Aeaf.

Llongyfarchiadau Mawr !