O gaeau Llwynmwyn, i gae Parc y Scarlets

Ioan Lewis yn cael ei ddewis i dîm y Scarlets!

Gwenan Evans
gan Gwenan Evans

Ers dechrau chwarae rygbi yn ysgol Henry Richard, roedd hi’n amlwg fod ganddo dalent ac yn mwynhau chwarae. O ddydd i ddydd mae Ioan allan ar y fferm yn gweithio a helpu ei Dad ar y fferm wrth ochrau Ffair Rhos.  Yn ogystal, mae’n mynychu Coleg Gelli Aur unwaith yr wythnos yn astudio amaethyddiaeth. Dewch i ni ddod i nabod fwy am Ioan a’i daith rygbi.

Pryd nes di sylweddoli bod rygbi yn rhywbeth oeddet ti eisiau canolbwyntio arno?

Nes i sylweddoli bod rygbi yn chwaraeon roeddwn i ishe ffocysu arno pan on i yn cael fy newis yn gyson i ddechrau i dîm Ceredigion dan 15.

Pa safle wyt ti’n chwarae?

Prop pen tyn

Clybiau ti wedi chwarae iddyn nhw?

Fi wedi chwarae i Lambed lan nes tîm dan 16 wedyn wnes i symud i dîm ieuenctid Aberystwyth. Ges i fy newis i garfan Gorllewin dan 16 Scarlets yn 2019 ac yna mlaen i’r garfan gyfunol dan 16. Gwanwyn llynedd ges i fy ngofyn i hyfforddi gyda’r garfan dan 18 Scarlets a chwarae blwyddyn lan. ‘Leni oedd y flwyddyn ddiwethaf yn y garfan dan 18.

‘Pre-match meal’/arferiad

Eithaf ymlaciedig cyn gem, cael y cit i gyd yn barod y noswaith cyn y gêm a digon o ddŵr trwy gydol y dydd.

Cae gorau i ti chwarae arno?

Parc y Scarlets

Sawl gwaith yr wythnos wyt ti’n hyfforddi ac yn ble?

Rwyf yn hyfforddi tair gwaith yr wythnos yn Llanelli, unwaith i ddwywaith yn Aberystwyth a mynd i’r ‘gym’ yn Nhregaron pan gai amser.

Unrhyw gêm yn sefyll allan i ti, nes di fwynhau fwyaf neu brofiad da?

Gêm yn erbyn Caerdydd wnaeth sefyll allan i mi, gan fod e’n brofiad da cael chwarae ym Mharc y Scarlets a theimlo’r awyrgylch.

Unrhyw chwaraewr ti’n edmygu?

Wyn Jones gan ei fod e yn dod o’r un cefndir a finnau.

Beth yw dy obeithion am y dyfodol?

Rwyf yn gobeithio cadw fynd gyda’r Scarlets ar ôl y gemau ‘ma orffen, a gobeithio chwarae i Gymru yn y dyfodol.

Diolch yn fawr i Ioan am dy amser, a phob lwc i ti yn y dyfodol.

Cadwch lygaid allan am yr enw!