Ffermwyr Ifanc yn y Ffair Aeaf

Aelodau CFfI ardal Caron360 yn cystadlu yn y Ffair Aeaf!

Gwenan Evans
gan Gwenan Evans
Delun Davies, CFfI TregaronCFfI Ceredigion
Gethin Davies, CFfI LledrodCFfI Ceredigion
Gethin Thomas, CFfI TregaronCFfI Ceredigion
Megan Thomas, CFfI TregaronCFfI Ceredigion
Ffion a Bethan James, CFfI LlangeithoCFfI Ceredigion
Steffan George, CFfI LledrodCFfI Ceredigion
William Jenkins, CFfI LledrodCFfI Ceredigion

Roedd cyffro’r Sioe Aeaf nôl eleni eto yn Llanelwedd, a chyfle gwych i aelodau’r ffermwyr Ifanc lleol dangos eu doniau mewn gwahanol feysydd. Mae’r amrywiaeth o gystadlaethau yn golygu fod yna rhywbeth at ddant pawb, boed hynny yn gystadlu neu i wylio.

Felly pwy oedd yr aelodau lleol a fu’n cystadlu dros y Sir yn Llanelwedd dros y deuddydd diwethaf?

Dyw cystadlu ar lefel Cymru ddim yn ddiarth i ddwy o glwb Tregaron a’r Cylch, sef Megan Thomas a Delun Davies. Ar ôl cipio’r rhuban coch yn niwrnod maes Ceredigion yn y gystadleuaeth Addurno Cacen Boncyff Siocled, daeth Megan yn bumed mewn cystadleuaeth gref iawn. Yna, Delun oedd â’r swydd o Addurno Torch Nadolig a gwneud torch hyfryd iawn i gipio’r ail safle. Mae’n amlwg fod gan y ddwy yma ddyfodol disglair iawn.

Mae Dunbia yn gweithio ar y cyd gyda CFfI Cymru ar Gynllun Carcas Wyn, ble mae cynhyrchwyr sydd yn aelod o GFfI yng Nghymru yn cael arian ychwanegol am eu cynnyrch. Dros y tymor gwerthu, mae Dunbia yn beirniadu cyfartaledd ansawdd a chysondeb cig oen. Gethin Thomas o CFfI Tregaron a’r Cylch aeth â’r wobr gyntaf eleni, am gynhyrchu cig oen o ansawdd uchel i Dunbia.

Rhywbeth ychydig yn wahanol ‘eleni oedd cystadleuaeth ATV. William Jenkins oedd yn cynrychioli Ceredigion a daeth yn 3ydd. Da iawn ti.

Beirniadu stoc ydy un o gryfderau CFfI Ceredigion, ac roedd nifer o aelodau lleol yn rhoi eu barn yn gryf ac yn gywir. Ceredigion daeth i’r brig yn y gystadleuaeth barnu carcas ŵyn, gyda dau aelod o CFfI Lledrod yn cyfrannu; Steffan George yn ennill o dan 18oed a Gethin Davies o dan 16. Da iawn chi bois!

Ond doedd y cystadlu ddim yn gorffen fan hyn i Gethin Davies. Sioe Aeaf bishi iawn iddo. Daeth Gethin hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cynhyrchu Ŵyn yng nghylch y defaid gyda phâr o ŵyn Mynydd Cymraeg.

Roedd dwy chwaer o glwb Llangeithio, Ffion a Bethan James hefyd yn dangos ŵyn Dorset yn y gystadleuaeth Cynhyrchu Ŵyn.

Ar ôl hynny, barnu Ŵyn i’r Cigyddion oedd nesaf o dan 16 oed i Gethin. Gwenllian Evans o glwb Llanddewi Brefi oedd yn cynrychioli o dan 28 oed, ac fe gipiodd y wobr gyntaf gyda sgôr uchel iawn i gynorthwyo Ceredigion i ddod yn ail fel tîm yn y gystadleuaeth Barnu Ŵyn Cigyddion. Mae beirniadu yn dod yn naturiol i’r ddwy chwaer o Landdewi Brefi gyda chwaer Gwenllian, Sioned Evans yn cystadlu o dan 28 yng nghystadleuaeth barnu Biff Cigyddion a dod yn 4ydd.

Ceredigion yn gorffen yn 3ydd yn gyffredinol yn yr adran barnu stoc, ond yn dod i’r brig ‘leni eto, yn gydradd gyntaf gyda Gwent yng nghystadlaethau CFfI Cymru. Da iawn pawb!