Yr hen yn erbyn yr ifanc!

Tîm Hŷn – 6 Tim Ifanc – 3

gan Fflur Lawlor
0A1C7F0B-4D4C-42B3-AE73
16C696C0-857E-498D-98ED

Tîm ifanc

4FC40C34-A5F2-415B-8CB0

Tîm hŷn

5D640689-E4FB-4F7B-A79D
0FD2E690-CFB9-4287-849B
76F866E8-B78E-40FD-8BEE

Chwaraewr y Tîm Ifanc – Lleucu Williams

5BC94F38-7FBA-4EC9-80D1

Chwaraew y gêm Tîm Hŷn – Catrin Pugh-Jones

Ar Ddydd Sadwrn, Medi 17eg dychwelodd Clwb Hoci Caron i chwarae ar gae chwarae Ysgol Henry Richard am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd ar gyfer gêm gyfeillgar. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn chwarae eu gemau cartref ar yr astro turf yn Llanbedr Pont Steffan.

Daeth 22 o chwaraewyr y gorffennol a’r presennol at ei gilydd ar gyfer gêm gyfeillgar – y timau oedd ‘Hen’ yn erbyn yr ‘Ifanc’! Roedd hi’n gêm dda, gyda’r ddau dîm yn rhoi’r cyfan ac eisiau ennill! Y sgôr terfynol oedd ‘Hen’ – 6  ‘Ifanc’ – 3, gyda chwaraewr hynaf y gêm yn sgorio hatric! Chwaraeodd 4 set o fam a merch ac un anti a nith! Chwaraewr gêm y tîm ‘ifanc’ oedd Lleucu Williams a’r tîm ‘hen’ Catrin Pugh-Jones.

Yn dilyn y gêm cafwyd noson gymdeithasol yng Nghlwb Rygbi Tregaron a chyfle i gofio’r amseroedd da mae’r Clwb wedi’u cael dros y blynyddoedd.

Mae’r Clwb yn hynod o falch am y gefnogaeth a gawsant gan Glwb Rygbi Tregaron, Arwyn Morgan am y bwyd ar ôl y gêm, siop Spar Tregaron am luniaeth a gwobrau raffl, Lleucu Ifans am ddyfarnu a’r ffotograffydd, Irfon Bennett.

Gobeithio bydd hwn yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, felly os ydych chi erioed wedi chwarae i’r clwb, cadwch eich llygaid ar agor am y gêm nesaf lle rwy’n siŵr y bydd y ‘pobl ifanc’ allan i ddial!

Lluniau – Irfon Bennett