Eisteddfod Ysgol Henry Richard

Canu, llefaru, actio, dawnsio, meimio, barddoni.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
FB_IMG_1667129408672

Côr Teifi’n canu yn y Pigion nos Iau,

FB_IMG_1667129431319

Enillwyr Tlysau blwyddyn 5 a 6. Mr Trevarthen (beirniad Saesneg), Scott (trydydd), Rhys (trydydd), Bill (enillydd Saesneg), Flo (enillydd Cymraeg), Grug (ail Cymraeg a Saesneg), Mali (trydydd), Mrs Heath (beirniad Cymraeg).

FB_IMG_1667129440865

Mr Pugh, y capteiniaid a’r masgotiaid yn agor yr Eisteddfod.

FB_IMG_1667129418535

Cadi Jones a Nest Jenkins, beirniaid yr Eisteddfod

IMG_20221026_144007

Enillwyr y gwobrau llenyddiaeth Ffês 3. Enillydd y Gadair oedd Mari Herberts gyda Gwenno Humphreys yn ail a Begw Ifans yn drydydd. Enillydd y tlws Saesneg oedd Mossy Murton gyda Mari Herberts yn ail a Mary Holroyd yn drydydd.

IMG_20221026_125200

Meimio Teifi

IMG_20221026_094624

Parti llefaru Aeron

IMG_20221025_142724

Seremoni bl 5 a 6 gyda Mari a Mary, prif swyddogion yr ysgol yn arwain.

FB_IMG_1667129456368

Tŷ Ystwyth yn dawnsio

FB_IMG_1667129464604

Hysbyseb tŷ Aeron. Pa athrawon sy’n cael eu portreadu sgwn i?

FB_IMG_1667129470523

Hysbyseb Teifi

FB_IMG_1667129475997

Hysbyseb Ystwyth

FB_IMG_1667129480807

Grŵp pop Aeron

FB_IMG_1667129486551

Ymgom Ystwyth – Nyth Cacwn

FB_IMG_1667129508638

Côr Teifi gyda Mari Herberts yn arwain.

FB_IMG_1667129513962

Mary (is gapten), Begw (capten), Mari (capten), Richard (is gapten).

Emrys Jones. Actor mwyaf addawol.

Emrys Jones. Actor mwyaf addawol.

Screenshot_20221030_185103

Annabelle Bulman, blwyddyn 5 – Unawdydd Mwyaf Addawol.

Cafwyd gwledd o adloniant a chystadlu ar lwyfan Ysgol Henry Richard yn ystod wythnos ola’r hanner tymor hwn. Mae Eisteddfod yr Ysgol yn uchafbwynt ac yn ddigwyddiad pwysig iawn ers blynyddoedd a doedd eleni ddim yn wahanol o gwbl. Daeth y disgyblion, o’r tri thŷ ynghyd i frwydro am bwyntiau i’w tai – Aeron, Teifi ac Ystwyth.

Roedd hi’n braf cael yr Eisteddfod nôl ar y llwyfan ar ôl dwy Eisteddfod Rithiol dros Cofid19. Braf oedd gweld yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf yn y dosbarth Meithrin a Derbyn i’r hynaf ym mlwyddyn 11 yn mwynhau perfformio a dangos eu doniau. (gan gynnwys sawl aelod o staff hefyd yn y côr ar ddiwedd yr Eisteddfod.)

Dwy o gyn-ddisgyblion yr ysgol oedd ein beirniaid eleni, sef Nest Jenkins a Cadi Jones. Dywedodd y ddwy eu bod wedi joio mas draw, er y crafu pen! Diolch iddyn nhw am eu gwaith arbennig.

Capteiniaid y tai eleni oedd:
Aeron: Gwenno Humphreys a Beca Lewis yn gapteiniaid a Megan Dark a Lilirose Hughes yn is-gapteiniaid.
Teifi: Mari Herberts a Begw Ifans yn gapteiniaid a Mary Holroyd a Richard Lloyd yn is-gapteiniaid.
Ystwyth: Alaw James a Megan Thomas yn gapteiniaid a Lleucu Williams ac Emrys Jones yn is-gapteiniaid.

Masgotiaid y tai eleni oedd:

Aeron: Flo Cook ac Emily Evans o flwyddyn 6. Mabli Dark ac Ela Pugh o flwyddyn 7.
Teifi: Hallie Parkin a Grug Lewis-Hughes o flwyddyn 6. Lois Davies a Cari Lewis o flwyddyn 7.
Ystwyth: Carrog Hillman a Georgia Richardson o flwyddyn 6. Twm James a Sara Jenkins o flwyddyn 7.

Tŷ Teifi a ddaeth i’r brig ar ddiwedd yr Ŵyl. Dyma grynodeb o’r marciau:

Cystadlaethau Gwaith Cartref:
Aeron: 125
Teifi: 201
Ystwyth: 118

Cystadlaethau Llwyfan:
Aeron: 281
Teifi: 261
Ystwyth: 240

Canlyniadau Terfynol:
Aeron: 406
Teifi: 462
Ystwyth: 358

Rhoddwyd gwobrau arbennig i’r canlynol am eu llwyddiannau ar ddiwedd yr Eisteddfod hefyd:

Unawdydd Mwyaf Addawol: Annabelle Bulman, Blwyddyn 5, Teifi. Enillodd Annabelle yr unawd i flynyddoedd 5 a 6.
Llefarydd Gorau: Elin Williams, Blwyddyn 10, Teifi. Enillodd Elin y Llefaru Unigol i Flynyddoedd 9-11.
Actor Mwyaf Addawol: Emrys Jones, blwyddyn 11, Ystwyth. Actiodd Emrys fel Mr Pugh yn Hysbyseb Ystwyth a ddaeth i’r brig, fe oedd Einion yn ymgom Ystwyth a ddaeth i’r brig hefyd, ynghyd â Dafydd Iwan yn y meim.
Offerynnwr Mwyaf Addawol: Leo Zanoni Kincaid, blwyddyn 10, Teifi. (am ennill yr unawd offerynnol ar y piano ac am chwarae’r drymiau yn y grŵp pop.)
Eitem Gerddorol Orau: Lois Davies, blwyddyn 7, Teifi. (am ei pherfformiad yn yr unawd sioe gerdd Ffês 2)
Arweinydd Corawl Gorau: Mari Herberts, blwyddyn 11, Teifi. (am arwain y côr buddugol)
Pwyntiau Unigol Uchaf: Mari Williams, blwyddyn 8, Teifi.

Ynghyd â chystadlaethau llwyfan, bu cryn dipyn o gystadlu yn yr adran waith cartref o flaen llaw a chystadlaethau Sgen Ti Dalent. Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth yma yn yr Eisteddfod Rithiol, parhawyd â’r gystadleuaeth ar-lein. Rhaid oedd cyflwyno talent ar ffurf fideo. Mae’r fideos yn llawn ar wefannau cymdeithasol yr ysgol.

Canlyniadau Llwyfan:

Unawn Meithrin a Derbyn
1 Harley Kenney
2 Ria Cutter
3 Leila Pugh

Llefaru Meithrin a Derbyn
1 Ned Lewis
2 Trefor Davies
3 Jac Lloyd

Unawd Blwyddyn 1 a 2
1 Jeno Pugh
2 Olivia Parkes
3 Gwenno Hughes

Llefaru Blwyddyn 1 a 2
1 Nwla Jones
2 Leri Watkin
3 Gwen Evans

Unawd Blwyddyn 3 a 4
1 Arthur Evans
2 Megan Davies
3 Brooke Poole

Llefaru Blwyddyn 3 a 4
1 Arthur Evans
2 Connor Wylde
3 Nel James

Unawd Blwyddyn 5 a 6
1 Annabelle Bulman
2 Mali Jones
3 Grug Lewis-Hughes

Llefaru Blwyddyn 5 a 6
1 Grug Lewis-Hughes
2 Emily Evans
3 Mali Jones

Unawd Offerynnol Blwyddyn 3-6
1 Grug Lewis -Hughes (piano)
2 Bill Henry (ffliwt)
3 Carrog Hillman (gitar)

Unawd Merched Blwyddyn 7 – 8
1 Ela Pugh
2 Mari Williams
3 Mari Edwards

Unawd Bechgyn Blwyddyn 7 – 8
1 Guto Davies
2 Hedd Jenkins
3 Iolo James

Llefaru Blwyddyn 7 – 8
1 Mari Williams
2 Ela Pugh
3 Lois Davies

Llefaru Saesneg Blwyddyn 7 – 8
1 Mari Williams
2 Dafydd Caeo
3 George Lewis

Unawd Merched Blwyddyn 9-11
1 Gwenno Evans
2 Gwenno Humphreys
3 Elin Williams

Unawd Bechgyn Blwyddyn 9-11
1 Ifan Williams

Llefaru Blwyddyn 9-11
1 Elin Williams
2 Delun Davies
3 Beca Lewis

Llefaru Saesneg Blwyddyn 9-11
1 Mari Herberts
2 Megan Thomas
3 Thomas Barry

Unawd Offerynnol Blwyddyn 7-11
1 Leo Zanoni Kinkaid (piano)
2 Gwenno Humphreys (piano)
3 Bo Ryan (gitar)

Deuawd
1 Gwenno a Lilirose
2 Ela a Mabli

Unawd Sioe Gerdd Ffês 2
1 Lois Davies
2 Ela Pugh
3 Mari Williams

Unawd Sioe Gerdd Ffês 3
1 Elin Williams
2 Gwenno Humphreys

Stori a Sain Ffês 2
1 Ela ac Iago, Aeron
2 Mari a Lois, Teifi
3 Twm ac Einon, Ystwyth

Ymgom Blwyddyn 7 – 8
1 Mari a Lois, Teifi
2 Ela a Mabli, Aeron
3 Ellis ac Iago, Aeron

Ymgom Blwyddyn 9-11
1 Emrys, Jac, Alaw a Megan, Ystwyth
2 Delun a Gwenno, Aeron
3 Begw a Mari, Teifi

Dawns Blwyddyn 3-6
1 Teifi
2 Teifi
3 Ystwyth

Dawnsio Blwyddyn 7-11
1 Aeron
2 Ystwyth
3 Teifi

Parti Canu Ffês 1
1 Ystwyth gydag Alaw yn arwain
2 Aeron gyda Beca yn arwain
3 Teifi gyda Begw yn arwain

Parti Llefaru Ffês 2 a 3
1 Aeron
2 Teifi
3 Ystwyth

Parti Llefaru Saesneg
1 Ystwyth

Meimio i Gerddoriaeth
1 Ystwyth
2 Aeron
3 Teifi

Hysbyseb
1 Ystwyth
2 Aeron
3 Teifi

Grŵp Pop
1 Aeron
2 Teifi
3 Ystwyth

Côr
1 Teifi gyda Mari Herberts yn arwain
2 Aeron gyda Gwenno Humphreys yn arwain
3 Ystwyth gyda Megan Thomas yn arwain.

Dyma ambell lun i gyfleu’r hwyl a gafwyd yn ystod y deuddydd a mwy!