Yr Eisteddfod yn chwilio am weithwyr Maes

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn prysur agosau, mae’r trefnwyr yn awyddus i glywed gan weithwyr lleol i fod yn rhan o dîm y Maes

gan Gwenllian Carr
Gwaith paratoi am yr Eisteddfod

Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm sy’n gweithio ar y Maes?

Dim ond deufis sydd i fynd tan y bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Dregaron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, ac ar ôl dwy flynedd o ddisgwyl, mae’n argoeli i fod yn wythnos i’w chofio!

Cyn bo hir, bydd y gwaith yn cychwyn ar y Maes ac mae’r trefnwyr am glywed gan weithwyr lleol sy’n chwilio am waith dros y misoedd nesaf er mwyn rhoi tîm at ei gilydd.  Mae digonedd i’w wneud, gan gynnwys codi ffensys, paratoi’r maes carafanau ayb wrth i ni baratoi i groesawu pawb i’r ardal.

Os ydych chi’n chwilio am waith dros y misoedd nesaf, cysylltwch!  Ebostiwch gwyb@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs.