Dros ddeugain o arweinyddion corau’n cael modd i fyw yn Lloergan

Cantorion Côr yr Eisteddfod yn mwynhau dan arweiniad Rhys Taylor

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mis i heno, bydd y Pafiliwn yn Nhregaron yn fôr o gânu gyda llond llwyfan o leisiau lleol.

Lloergan yw cyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, a’r sioe hon gan Fflur Dafydd fydd yn agor y brifwyl.

Ers blynydde, bellach, mae cantorion y sir wedi bod yn ymarfer caneuon sy’n eitha gwahanol i’r emynau a’r anthemau arferol. Er yr holl amser, ni’n dal i ddysgu, gydag ambell gân neu eiriau newydd yn dal i gyrraedd, ac ambell rythm… heriol… yn mynnu mwy o ymarfer!

Yn ogystal â sgript a stori afaelgar fydd yn cael ei chyflwyno gan actorion lleol, mae’r côr yn canu cyfres o ganeuon ‘popi’, sydd wedi’u cyfansoddi gan Griff Lynch a Lewys Wyn a’u trefnu gan ein harweinydd, Rhys Taylor (y Cardi, sydd bellach yn byw yn Llanwnnen).

Fe fyddwch yn siŵr o nabod lot o wynebau – mae dros 140 o bobol i gyd, ac yn ystod yr ymarferion ry’n ni wedi sylweddoli bod dros 40 o arweinyddion corau a phartïon yn canu yn y côr!

Bues i’n holi ambell un ohonyn nhw am y profiad o fod yn rhan o Lloergan. Un peth ddaeth i’r amlwg oedd mor braf oedd cael dod ynghyd i ganu, heb orfod trefnu, datrys camgymeriadau rhyw lais neu’i gilydd, a streso am faint fydd yn troi lan!

Mae’n debyg bod tocynnau‘r sioe yn gwerthu’n dda. Peidiwch colli mas ar gyfer i ddod i’n gwylio ar nos Wener agoriadol yr Eisteddfod.