Nôl o’r diwedd!

Gŵyl Rasio Harnais Tregaron yn dychwelyd i Ddolyrychain.

gan Arwel Jones

O’r diwedd dychwelodd gŵyl rasio harnais Tregaron i’w gartref ysbrydol ar fferm Dolyrychain, Pontrhydfendigaid. Wedi cyfnod o rasio yn Nhir Prins oherwydd Covid 19 mi roedd yn braf i weld y loriau yn tyrru nol am Dregaron ar gyfer un o uchafbwyntiau mwyaf yng nghalendr rasio harnais Cymru a Phrydain.

Cofrestrodd nifer dda o geffylau i gystadlu dros y penwythnos gyda 14 ras ar y ddau ddiwrnod, ac mi gafwyd rasio arbennig dros y penwythnos.

Uchafwbynt y penwythnos yw ffeinal Clasur Cymru, gyda’r anthem enwog Chariots of Fire yn atseinio wrth i’r ceffylau baratoi! Does na ddim gwefr tebyg wrth i geffylau gorau’r wlad rasio i ennill y goron yma a hawlio’u lle ar restr enillwyr y Clasur. Ac nid oedd y ffeinal eleni am siomi. Gwelwyd un o geffylau gorau’r wlad (Evenwood Sonofagun) yn dychwelyd i’r trac rasio wedi cyfnod yn America ac bu bron iddo gipio’r tlws ar ôl rhoi cychwyn o 60 llath i’r enillydd. Ond Laneside Logic gipiodd y prif wobr o drwch blewyn yn nwylo Grant Cullen.

Os am weld y canlyniadau’n llawn ewch draw i wefan BHRc – www.bhrc.co.uk