16eg o Dachwedd o 2-8yp yn Amgueddfa a Chanolfan y Barcud Tregaron Kite Centre & Museum(Canolfan Dreftadaeth Tregaron)
Mae prosiect Coastal Uplands: Heritage and Tourism yn eich gwahodd i ddod draw i rannu eich hen luniau, arteffactau a hen bethau anghofiedig sy’n cynrychioli hanes a threftadaeth ardal Mynyddoedd Cambrian Ceredigion, Yr Elenydd.
Canu’r delyn gan Malen Fish-Jenkins am 2yp a 6yp
Bydd hen ffilmiau o’r ardal yn cael eu harddangos, a siaradwyr gwadd fel a ganlyn:
- Carys yn cyflwyno Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur
- Cyril yn sôn am ahnes Tregaron
- Ioan yn trafod y gwaith mwyngloddio
- Alun yn swgrsio am fywyd Pontarfynach
Darllediad o Bwrlwm Bro yn cynnwys trigolion Tregaron a Blaenau Ystwyth.
Ffilmiau am Nantymoch a mwy.
Dangos hen luniau Cymdeithas Merlota Tregaron o’r 1970au ynghyd â llais y diweddar Mrs Dai Williams, Ysgrifennydd Cymdeithas Merlota Tregaron
Te, coffi a chacen ar dap wrth gwrs!
Ebostiwch : Dafydd ar dyfodolcambrianfutures@gmail.com am rhagor o wybodaeth!