Cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi

Dod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i Dregaron.

Cered Menter Iaith Ceredigion
gan Cered Menter Iaith Ceredigion

Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r dref yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.

Dywedodd Siriol Teifi, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered,

“Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n rhywbeth rydym yn gobeithio gallu parhau i wneud yn y dyfodol.”

 

Cafodd y ffenestri eu beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.

Yn ennill y gystadleuaeth oedd Anrhegaron a rhoddwyd canmoliaeth uchel i Rhiannon, Caron Stores ac Arwyna.

Derbyniodd yr enillwyr darian her Cered i’w gadw am flwyddyn yn ogystal â hamper llawn cynnyrch Cymreig. Os hoffech weld y ffenestri wedi eu haddurno ewch draw i dudalen Facebook neu Instagram Cered Menter Iaith Ceredigion.