Cystadleuaeth Addurno Ffenest Dydd Gwyl Dewi

Cered yn cynnal cystadleuaeth i fusnesau Tregaron

Cered Menter Iaith Ceredigion
gan Cered Menter Iaith Ceredigion
Cystadleuaeth Gwyl Ddewi Tregaron

Cystadleuaeth Gwyl Ddewi Tregaron

Mae Cered Menter Iaith Ceredigion yn cynnal Cystadleuaeth Gŵyl Ddewi ar gyfer busnesau Tregaron. Bydd tarian i’r siop a fydd, yn nhyb y beirniad, wedi addurno ei ffenest(ri) orau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd y ffenestri yn cael eu beirniadu ar:

  • eu gwreiddioldeb
  • eu hadlewyrchiad o ysbryd yr Ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.

Y beirniad ar gyfer y gystadleuaeth fydd Ben Lake AC ac fe fydd y beirniadu yn cymryd lle rhwng 21-25 o Chwefror. Cedwir y wobr o darian gan yn siop fuddugol am flwyddyn.

Gwnewch y pethau bychain. Ymunwch yn yr hwyl!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â siriol.teifi3@ceredigion.gov.uk.

Gwnewch y pethau bychain. Ymunwch yn yr hwyl!